Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 5 Mehefin 2014 i’w hateb ar 10 Mehefin 2014
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi cael ei gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Elin Jones (Ceredigion): Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gynnal y Gymraeg fel iaith fyw yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)1712(FM)W
2. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau llyfrgell ar draws Cymru? OAQ(4)1700(FM)
3. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi eu cynnal yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU ynglyn â Bil Cymru? OAQ(4)1705(FM)
4. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail oed yng Nghymru? OAQ(4)1716(FM)
5. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd sy'n deillio o ddigwyddiadau chwaraeon mawr? OAQ(4)1704(FM)
6. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella cludiant yng Nghymru dros y deuddeg mis nesaf? OAQ(4)1703(FM)
7. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i sector y diwydiannau creadigol? OAQ(4)1708(FM)
8. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflenwi ynni yng Nghymru? OAQ(4)1713(FM)
9. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y gwasanaethau gofal sylfaenol? OAQ(4)1711(FM)W
10. Byron Davies (Gorllewin De Cymru): Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o ganlyniadau diweddar y British Social Attitudes Survey yng nghyswllt rhagfarn hiliol hunan-gofnodedig yng Nghymru? OAQ(4)1701(FM)
11. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella’r modd y mae pynciau STEM yn cael eu haddysgu? OAQ(4)1702(FM)
12. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am nifer y gwelyau gofal critigol sydd ar gael yn ysbytai Dwyrain De Cymru? OAQ(4)1709(FM)
13. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a fu yng nghyswllt trydaneiddio’r brif reilffordd rhwng Paddington ac Abertawe? OAQ(4)1706(FM)
14. Alun Ffred Jones (Arfon): Pa brosiectau cyfalaf sydd gan Lywodraeth Cymru ar y gweill i ddatblygu’r seilwaith trafnidiaeth yng Nghymru? OAQ(4)1714(FM)W
15. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i godi lefelau ailgylchu yng Nghymru? OAQ(4)1707(FM)