Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 29 Medi 2009 i’w hateb ar 13 Hydref 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwasanaethau adsefydlu yng nghyswllt cyffuriau. OAQ(3)2299(FM)
2. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu trafodaethau a gafwyd gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol y Labordy Gwyddoniaeth Fforensig yng Nghas-gwent. OAQ(3)2289(FM)
3. Lesley Griffiths (Wrecsam): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Gogledd Cymru dros y misoedd nesaf. OAQ(3)2298(FM)
4. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu economaidd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. OAQ(3)2302(FM) W
5. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer yr economi yn Nwyrain De Cymru. OAQ(3)2294(FM)
6. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau cyllideb ar gyfer y 3 blynedd nesaf. OAQ(3)2303(FM)
7. Trish Law (Blaenau Gwent): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran gweithredu ymrwymiad Cymru’n Un i ddarparu cymorth ychwanegol i bensiynwyr gyda’r dreth gyngor. OAQ(3)2279(FM)
8. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddirywiad newyddion Saesneg am Gymru. OAQ(3)2281(FM)
9. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu presgripsiynau am ddim yng Nghymru. OAQ(3)2290(FM)
10. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sefydlu Coleg Ffederal yng Nghymru. OAQ(3)2304(FM) W TYNNWYD YN ÔL
11. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad y gwasanaeth ambiwlans. OAQ(3)2297(FM)
12. Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cael â’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol. OAQ(3)2292(FM)
13. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o lwyddiannau Llywodraeth Cynulliad Cymru ers iddo fod yn Brif Weinidog. OAQ(3)2280(FM)
14. Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ffordd orau o ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi ein cymunedau mwyaf amddifad. OAQ(3)2296(FM)
15. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau Papur Gwyrdd Llywodraeth y DU, "Shaping the Future of Care Together”, i Gymru. OAQ(3)2286(FM)