13/10/2015 - Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd 08/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/10/2015

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 8 Hydref 2015 i'w hateb ar 13 Hydref 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

1. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd? OAQ(4)2507(FM)

2. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Beth yw cyfanswm y gost hyd yma o gynllunio ar gyfer ffordd liniaru'r M4 o amgylch Casnewydd? OAQ(4)2495(FM)

3. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys mewn ardaloedd gwledig yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)2506(FM)

4. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer creu mwy o dai fforddiadwy yn ne Cymru? OAQ(4)2505(FM)

5. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain Casnewydd? OAQ(4)2502(FM)

6. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau meddyg teulu yn Aberconwy? OAQ(4)2496(FM)

7. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am band eang cyflym iawn yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)2498(FM)

8. Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am forlyn ynni'r llanw bae Abertawe? OAQ(4)2492(FM)

9. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adfywio trefi marchnad? OAQ(4)2493(FM)

10. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau i gleifion canser yng Nghymru cyn etholiad nesaf y Cynulliad? OAQ(4)2503(FM)

11. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn grymuso menywod yng Nghymru i wneud cyfraniad llawn i economi Cymru? OAQ(4)2497(FM)

12. Gwenda Thomas (Castell-nedd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod addysg rhyw a pherthnasau ar gael i blant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu? OAQ(4)2494(FM)

13. Altaf Hussain (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â gwastraff ariannol yn y GIG? OAQ(4)2500(FM)

14. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella economi Sir Benfro? OAQ(4)2491(FM)

15. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i adfywio cymoedd de Cymru? OAQ(4)2504(FM)