Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 30 Hydref 2012
i’w hateb ar 13 Tachwedd 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. David Rees (Aberafan): Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl Aberafan dros y 12 mis nesaf. OAQ(4)0765(FM)
2. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru. OAQ(4)0768(FM)
3. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu’r amodau ar gyfer twf economaidd yng Nghymru. OAQ(4)0755(FM)
4. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pryd y mae’r Prif Weinidog yn disgwyl y bydd Llywodraeth Cymru yn cael pwerau benthyg newydd. OAQ(4)0762(FM)W
5. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wneud economi gogledd Cymru yn fwy cystadleuol. OAQ(4)0763(FM)
6. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. OAQ(4)0753(FM)
7. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i fynd i’r afael â’r gostyngiad sylweddol yn nifer y prentisiaethau yng Nghymru. OAQ(4)0754(FM)
8. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau sy’n cael eu cymryd i sicrhau diogelwch teithwyr ar wasanaethau bysiau yng Nghymru. OAQ(4)0764(FM)
9. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth gwasanaethau canser yng Nghymru. OAQ(4)0756(FM)W
10. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael â phroblem asbestos mewn ysgolion. OAQ(4)0767(FM)
11. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyrff y trydydd sector. OAQ(4)0752(FM)
12. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynglyn â chyllideb yr Undeb Ewropeaidd. OAQ(4)0760(FM)W
13. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): Pa drefniadau y mae’r Prif Weinidog wedi’u rhoi ar waith i gwrdd â’r Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu newydd yng Nghymru. OAQ(4)0757(FM)
14. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei flaenoriaethau ar gyfer Tor-faen dros y chwe mis nesaf. OAQ(4)0766(FM)
15. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y diwydiant coedwigaeth yng Nghymru. OAQ(4)0759(FM)