Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 30 Mehefin 2010 i’w hateb ar 14 Gorffennaf 2010
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyblygrwydd diwedd blwyddyn. OAQ(3)1146(BB)
2. Nick Ramsay (Mynwy): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyd-Weinidogion ynghylch grant bloc Cymru. OAQ(3)1145(BB)
3. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau y mae wedi'u cael ynghylch y cyllid ar gyfer y portffolio Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn y dyfodol. OAQ(3)1153(BB)
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi. OAQ(3)1158(BB)
5. William Graham (Dwyrain De Cymru): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i adolygu'r dyraniad yn y gyllideb ar gyfer y portffolio Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol. OAQ(3)1149(BB)
6. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth oedd blaenoriaethau’r Gweinidog wrth ddyrannu cyllid ar gyfer portffolio'r Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai. OAQ(3)1141(BB)
7. Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sicrhau gwerth am arian ar draws cyllideb y Cynulliad. OAQ(3)1136(BB) TYNNWYD YN ÔL
8. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cael yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chyllideb Cymru. OAQ(3)1129(BB)
9. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer gweddill y 3ydd Cynulliad. OAQ(3)1147(BB)
10. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch darparu cyllid ychwanegol ar gyfer y portffolio Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes. OAQ(3)1156(BB)
11. Brian Gibbons (Aberafan): Sut y bydd y Gweinidog yn pennu ei blaenoriaethau ar gyfer cyllideb nesaf Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1125(BB)
12. Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi'u cael yn ddiweddar ynghylch y dyraniad cyllideb i'r portffolio Treftadaeth. OAQ(3)1124(BB)
13. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn mae'n ei wneud i sicrhau gwerth am arian ar draws cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)1128(BB)
14. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog yn ei rhoi i gyllid a ryddheir gan y Swyddfa Gartref wrth bennu ei chyllideb. OAQ(3)1131(BB)
15. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafodaethau y mae wedi’u cael yn ddiweddar gyda Llywodraeth y DU. OAQ(3)1137(BB)
Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
1. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith deng mlynedd cyntaf Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. OAQ(3)1205(HER)
2. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon yng Nghymru. OAQ(3)1234(HER)
3. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am warchod treftadaeth yng Nghymru wledig. OAQ(3)1204(HER)
4. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith Gemau Olympaidd 2012 ar chwaraeon yng Nghymru. OAQ(3)1232(HER)
5. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y defnydd a wneir o lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru: OAQ(3)1243(HER)
6. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer twristiaeth yn Nelyn. OAQ(3)1246(HER)
7. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo gweithgarwch corfforol yng Nghymru. OAQ(3)1249(HER)
8. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd llety i dwristiaid yng Ngogledd Cymru. OAQ(3)1239(HER)
9. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Nofio Am Ddim. OAQ(3)1233(HER) TYNNWYD YN ÔL
10. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i hyrwyddo treftadaeth chwaraeon Cymru. OAQ(3)1247(HER)
11. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am swyddogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. OAQ(3)1238(HER)
12. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo treftadaeth wledig. OAQ(3)1248(HER)
13. Brynle Williams (Gogledd Cymru): Beth yw blaenoriaethau’r Gweinidog ar gyfer cefnogi twristiaeth yng Ngogledd Cymru. OAQ(3)1216(HER)
14. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A fyddai modd defnyddio'r pecynnau cymorth Naws am Le i sefydlu llwybrau i dwristiaid ledled Cymru. OAQ(3)1237(HER)
15. Gareth Jones (Aberconwy): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch yr adroddiad a ryddhawyd yn ddiweddar gan y Ganolfan Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd Rhanbarthol ym Mhrifysgol Sheffield Hallam o'r enw 'The Seaside Tourist Industry in England and Wales'. OAQ(3)1253(HER)
Gofyn i un o gynrychiolwyr Comisiwn y Cynulliad
Ni chyflwynwyd yr un cwestiwn.