16/01/2013 - Amgylchedd a Tai

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 3 Ionawr 2013 i’w hateb ar 16 Ionawr 2013

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

1. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae datblygiadau mewn technoleg Addasu Genetig yn cael eu hasesu yng Nghymru. OAQ(4)0209(ESD)

2. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau polisi ynni Llywodraeth Cymru ar gyfer y Canolbarth. OAQ(4)0201(ESD)

3. Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am safonau ansawdd aer mewn ardaloedd canol dinas yng Nghymru. OAQ(4)0199(ESD)

4. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hybu lles anifeiliaid. OAQ(4)0205(ESD)

5. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau safbwynt Llywodraeth Cymru o ran datganoli polisi ynni. OAQ(4)0206(ESD)

6. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl yr iaith Gymraeg yn y broses gynllunio. OAQ(4)0204(ESD)W

7. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau amgylcheddol yn Islwyn. OAQ(4)0200(ESD)

8. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu’r system gynllunio newydd ar gyfer Cymru. OAQ(4)0202(ESD) TYNNWYD YN ÔL

9. Mick Antoniw (Pontypridd): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Hafren Power ynghylch effeithiau amgylcheddol posibl y Morglawdd Hafren arfaethedig.  OAQ(4)0210(ESD)

10. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i sicrhau y bydd ymgeiswyr cynllunio yn cael ymateb i ymholiadau gan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn pen cyfnod penodol. OAQ(4)0211(ESD)

11. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gostau cludo ynni i Gymru i’r defnyddiwr. OAQ(4)0203(ESD)

12. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau cyllidebol ar gyfer y 12 mis nesaf. OAQ(4)0198(ESD)

13. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwaith ymchwil ar y cyd sy’n cael ei gomisiynu i astudio effaith rhyddhau llusernau awyr. OAQ(4)0212(ESD)

14. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa fath o ymgynghoriad y mae’r Gweinidog wedi’i gael gyda chyd-Weinidogion yn y Cabinet am ddefnyddio’r cysyniad Dinas-ranbarth mewn perthynas â’r broses gynllunio. OAQ(4)0207(ESD)

15. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer ailgylchu gwastraff cartrefi yng Nghymru. OAQ(4)0208(ESD)

Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

1. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer mynd i’r afael â digartrefedd dros y chwe mis nesaf. OAQ(4)0199(HRH)

2. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu cyfranogiad mewn chwaraeon yng Nghymru. OAQ(4)0207(HRH)

3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Sut y mae’r Gweinidog yn bwriadu hybu nifer y bobl sy’n defnyddio’r Cynllun Gwarant Morgais mewn ardaloedd gwledig. OAQ(4)0210(HRH)

4. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu prynwyr tro cyntaf i brynu ty. OAQ(4)0205(HRH)

5. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y bobl ifanc o dan 16 oed yng Nghymru sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon. OAQ(4)0206(HRH)

6. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Cynllun Grant Refeniw Tai Fforddiadwy Llywodraeth Cymru. OAQ(4)0200(HRH) TYNNWYD YN ÔL

7. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithdrefnau newid defnydd Cadw ar gyfer Adeiladau Rhestredig. OAQ(4)0208(HRH)

8. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau portffolio ar gyfer 2013. OAQ(4)0197(HRH)

9. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â digartrefedd. OAQ(4)0202(HRH)

10. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei flaenoriaethau ar gyfer 2013. OAQ(4)0196(HRH) TYNNWYD YN ÔL

11. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ffigurau diweddaraf ynglyn â chyfranogiad pobl mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol. OAQ(4)0211(HRH)W

12. Ken Skates (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y Gogledd yn ystod y 12 mis nesaf. OAQ(4)0198(HRH)

13. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau adfywio Llywodraeth Cymru ar gyfer y Canolbarth. OAQ(4)0204(HRH)

14. David Rees (Aberafan): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn ymateb i effaith newid budd-daliadau tai. OAQ(4)0209(HRH)

15. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r hyn y mae’n ei wneud i warchod adeiladau crefyddol yng Nghymru. OAQ(4)0201(HRH)