Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 06 Hydref 2009 i’w hateb ar 20 Hydref 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o gynnydd ymrwymiadau Cymru’n Un hyd yn hyn. OAQ(3)2326(FM) TYNNWYD YN ÔL
2. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer carchar newydd yng Ngogledd Cymru. OAQ(3)2320(FM)
3. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. OAQ(3)2329(FM)
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith y gyllideb ddrafft ar y portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. OAQ(3)2322(FM)
5. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith y gyllideb ddrafft ar y portffolio Treftadaeth. OAQ(3)2323(FM)
6. Janet Ryder (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynhwysiant digidol. OAQ(3)2321(FM
7. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynglŷn â chyllido addysg uwch yng Nghymru. OAQ(3)2330(FM) W
8. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer lleihau allyriadau carbon ledled Cymru. OAQ(3)2308(FM)
9. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o pryd y bydd economi Cymru yn ailddechrau tyfu. OAQ(3)2324(FM)
10. Leanne Wood (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cynnal am oblygiadau Papur Gwyrdd Llywodraeth y DU, 'Shaping the Future of Care Together
’, i Gymru. OAQ(3)2328(FM)
11. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i hyrwyddo mynediad cynhwysol i siopau ac i wasanaethau ar gyfer pobl anabl. OAQ(3)2313(FM)
12. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drafodaethau y mae wedi’u cynnal â Llywodraeth y DU ynghylch pensiynau cyn weithwyr Visteon. OAQ(3)2312(FM)
13. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn helpu Cymru i adfer o’r dirwasgiad. OAQ(3)2311(FM)
14. Val Lloyd (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i wella iechyd y cyhoedd yng Nghymru. OAQ(3)2318(FM)
15. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog sydd ag Anhwylder Straen Wedi Trawma yng Nghymru. OAQ(3)2315(FM)