Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 17 Mehefin 2014 i'w hateb ar 24 Mehefin 2014
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
1. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar benodiadau cyhoeddus i gyrff sector cyhoeddus o fewn y portffolio diwylliant a chwaraeon? OAQ(4)0176(CS)
2. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer adfywio ar sail treftadaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0173(CS)
3. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru? OAQ(4)0174(CS)
4. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar reoli Llwybr Arfordir Cymru? OAQ(4)0167(CS)
5. Lynne Neagle (Torfaen): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i gefnogi chwaraeon ar lawr gwlad yn Nhorfaen? OAQ(4)0179(CS)
6. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae cyrff cyhoeddus yn cydweithio er mwyn sicrhau bod gwasanaethau chwaraeon a hamdden ar gael ym mhob rhan o Gymru? OAQ(4)0181(CS)W
7. Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog beicio yng Nghwm Cynon? OAQ(4)0172(CS)
8. Andrew R. T. Davies (Canol De Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo datblygiad chwaraeon ar lawr gwlad? OAQ(4)0178(CS)
9. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut y mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi digwyddiadau diwylliannol yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0168(CS)
10. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran cynyddu cyfranogiad Cymru mewn digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol? OAQ(4)0182(CS)
11. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar warchod adnoddau treftadaeth? OAQ(4)0177(CS)W
12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar logi cyfleusterau cyhoeddus ar gyfer hyfforddiant datblygu chwaraeon? OAQ(4)0175(CS)
13. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael ag adeiladau rhestredig sydd wedi’u hesgeuluso? OAQ(4)0169(CS)
14. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ei ymweliad diweddar â safle gwaith copr yr Hafod yn Abertawe? OAQ(4)0170(CS)
15. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut y mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn sicrhau gwerth am arian? OAQ(4)0171(CS)