26/03/2014 - Cyllid, Llywodraeth Leol a Comisiwn

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 19 Mawrth 2014 i'w hateb ar 26 Mawrth 2014

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i'r Gweinidog Cyllid

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau ychwanegol i ddyrannu cyllid untro i'r Portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? OAQ(4)0394(FIN)W

2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith Datganiad Cyllideb 2014 Llywodraeth y DU ar wariant Cymru? OAQ(4)0389(FIN)W

3. David Rees (Aberafan): Beth yw'r sefyllfa bresennol o ran cymeradwyo rhaglenni cronfeydd strwythurol Ewropeaidd 2014 – 2020 ar gyfer Gorllewin De Cymru? OAQ(4)0393(FIN)

4. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllido prosiectau cyfalaf newydd? OAQ(4)0381(FIN)

5. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oblygiadau Datganiad Cyllideb 2014 Llywodraeth y DU i Gymru? OAQ(4)0392(FIN)W

6. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd dyraniadau Buddsoddi i Arbed i'r gyllideb Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol? OAQ(4)0388(FIN)

7. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y strategaeth gyffredinol ar gyfer defnyddio cronfeydd strwythurol yn ne-orllewin Cymru? OAQ(4)0383(FIN)

8. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau cyllido i Gymru a gyhoeddwyd yn Natganiad Cyllideb 2014 Llywodraeth y DU? OAQ(4)0387(FIN)

9. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllidebau cyfalaf tan 2016-17? OAQ(4)0380(FIN)

10. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Sut y mae'r Gweinidog yn ceisio cynyddu cyfranogiad y sector preifat mewn cronfeydd strwythurol newydd a rhaglenni cysylltiedig? OAQ(4)0386(FIN)

11. William Graham (Dwyrain De Cymru): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i ddyrannu cyllid untro ychwanegol i bortffolio yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth? OAQ(4)0385(FIN)

12. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y £36 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer Llywodraeth Cymru yn Natganiad Cyllideb 2014 Llywodraeth y DU? OAQ(4)390(FIN)

13. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch caffael cyhoeddus Llywodraeth Cymru yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)0384(FIN)

14. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog roi adroddiad cynnydd ar baratoadau ar gyfer y rhaglenni cronfeydd strwythurol newydd i Gymru? OAQ(4)0382(FIN)

15. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth o ran y dyraniad yn y gyllideb i'r portffolio hwnnw?  OAQ(4)0379(FIN)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

1. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei chynlluniau i ddarparu gwell dealltwriaeth o brosesau llywodraeth leol? OAQ(4)0404(LG)

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer llywodraeth leol yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0392(LG)

3. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern? OAQ(4)0396(LG)

4. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd yn y dreth gyngor yng Nghymru ar gyfer 2014/15? OAQ(4)0393(LG)

5. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae'n eu cymryd i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern yng Nghymru? OAQ(4)0394(LG)

6. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglyn â phrif weithredwyr awdurdodau lleol yn ymgymryd â dyletswyddau Swyddog Canlyniadau yn ystod etholiadau? OAQ(4)0406(LG)

7. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa geisiadau gwirfoddol am uno awdurdodau lleol y mae'r Gweinidog wedi eu cael yn dilyn adroddiad Comisiwn Williams?  OAQ(4)0403(LG)W

8. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y setliad llywodraeth leol? OAQ(4)0402(LG)

9. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa gynnydd sy'n cael ei wneud i gryfhau cydweithio rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ(4)0399(LG)

10. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau'r dreth gyngor yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0395(LG)

11. Gwyn Price (Islwyn): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo aelodau o'r lluoedd arfog? OAQ(4)0401(LG)

12. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella amrywiaeth llywodraeth leol? OAQ(4)0400(LG)

13. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol cyllido llywodraeth leol yng Nghymru?  OAQ(4)0407(LG)W

14. Lynne Neagle (Torfaen): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael ynglyn â gweithredu argymhellion Comisiwn Williams? OAQ(4)0408(LG)

15. Elin Jones (Ceredigion): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith polisïau Llywodraeth y DU ar wasanaethau llywodraeth leol yng Nghymru? OAQ(4)0398(LG)

Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.