28/03/2012 - Amgylchedd a Tai

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 14 Mawrth 2012 i’w hateb ar 28 Mawrth 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drefniadau llywodraethu Parciau Cenedlaethol Cymru. OAQ(4)0110(ESD)

2. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei ymgynghoriad ynghylch bridio cwn. OAQ(4)0113(ESD) W

3. Andrew R T Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut mae ei adran yn mynd ati i weithredu ei hamcanion, fel y'u nodir yn y Rhaglen Lywodraethu. OAQ(4)0105(ESD)

4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith ffermydd gwynt ar Gymru. OAQ(4)0111(ESD)

5. Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad an dwbercwlosis mewn gwartheg. OAQ(4)0107(ESD) W

6.  Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r cysylltiad rhwng cymhlethdod tariffau cwmnïau ynni a thlodi tanwydd yng Nghymru. OAQ(4)0102(ESD)

7. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer y gorllewin dros y chwe mis nesaf. OAQ(4)0106(ESD)

8. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A yw’r Gweinidog wedi cynnal adolygiad o’r broses Cynllun Datblygu Lleol, ac a wnaiff ddatganiad am hynny. OAQ(4)0103(ESD)

9. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r trafodaethau y mae wedi'u cael ynghylch adeiladu neu gynyddu maint cronfeydd dwr yng Nghymru. OAQ(4)0108(ESD)

10. David Rees (Aberafan): Pa gynnydd a wneir i fynd ati i greu Un Corff Amgylcheddol. OAQ(4)0108(ESD)

11. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y system gynllunio. OAQ(4)0109(ESD)

12. Julie James (Gorllewin Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd i greu Parthau Cadwraeth Morol yn nyfroedd mewndirol Cymru. OAQ(4)0104(ESD)

13. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gysylltiadau carthffosydd cyhoeddus yn Nyffryn Clwyd. OAQ(4)0101(ESD) TYNNWYD YN ÔL

Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

1. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y modd y mae Theatr Genedlaethol Cymru a chyrff eraill yn defnyddio’r Llwyfan yng Nghaerfyrddin. OAQ(4)0105(HRH) W

2. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisïau Llywodraeth Cymru i ymdrin â’r ddarpariaeth tai fforddiadwy. OAQ(4)0112(HRH)

3. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer Aberconwy dros y chwe mis nesaf. OAQ(4)0107(HRH)

4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gynorthwyo asiantaethau gosod tai cymdeithasol. OAQ(4)0103(HRH)

5. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo theatrau gymunedol yn Nyffryn Clwyd. OAQ(4)0102(HRH)

6. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer Tor-faen yn 2012. OAQ(4)0106(HRH)

7. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod tenantiaid tai cymdeithasol yn cael eu trin yn deg gan y diwydiant yswiriant. OAQ(4)0113(HRH)

8. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth tai yng nghanol trefi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. OAQ(4)0109(HRH)

9. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu cyfranogiad mewn chwaraeon. OAQ(4)0114(HRH) W

10. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r Celfyddydau yng Nghymru. OAQ(4)0111(HRH) W

11. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ynglyn â darparu adnoddau hyfforddi pêl-droed yng ngogledd Cymru. OAQ(4)0108(HRH) W

12. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector tai rhent preifat yng Nghymru. OAQ(4)0110(HRH)

13. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau’r Llywodraeth ar gyfer ei Bil Tai arfaethedig. OAQ(4)0104(HRH)