Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 15 Mai 2012
i’w hateb ar 29 Mai 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol GIG Cymru. OAQ(4)0536(FM)
2. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae’n eu cymryd i hybu tryloywder ar draws y Llywodraeth. OAQ(4)0545(FM)
3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am safbwynt Llywodraeth Cymru o ran cynlluniau Corlan Hafren i adeiladu morglawdd. OAQ(4)0538(FM) W
4. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer ail flwyddyn tymor y Cynulliad hwn. OAQ(4)0540(FM)
5. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau y mae wedi eu cael gydag Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon y DU. OAQ(4)0551(FM) W Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig
6. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Parthau Cadwraeth Morol arfaethedig. OAQ(4)0543(FM) W
7. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl anabl yng Nghymru. OAQ(4)0535(FM)
8. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer creu swyddi. OAQ(4)0537(FM)
9. Sandy Mewies (Delyn): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith y dirywiad ariannol parhaus ar deuluoedd yng Nghymru. OAQ(4)0541(FM)
10. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau cymorth Llywodraeth Cymru i filwyr sy’n gwasanaethau yn y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd. OAQ(4)0548(FM)
11. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hybu e-ddemocratiaeth. OAQ(4)0542(FM)
12. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu’r mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau twf economaidd yng Nghanol De Cymru. OAQ(4)0546(FM)
13. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Cynllun Datblygu Gwledig. OAQ(4)0549(FM)
14. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â Maes Awyr Caerdydd. OAQ(4)0539(FM)
15. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei gynlluniau ar gyfer datblygu chwaraeon yng Nghymru. OAQ(4)0550(FM)