30/01/2008 - Cwnsler Cyffredinol a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 16 Ionawr 2008
i’w hateb ar 30 Ionawr 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ei swyddogaeth a’i gyfrifoldebau. OAQ(3)0085(CGE)

2. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud ar ehangu cwmpas Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol yn y dyfodol. OAQ(3)0080(CGE)

3. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer y chwe mis nesaf. OAQ(3)0083(CGE)

4. Leanne Wood (Canol De Cymru): A yw’r Cwnsler Cyffredinol wedi ymateb i unrhyw ymgynghoriad ar Fesur Cynllunio’r DU. OAQ(3)0090(CGE)

5. Michael German (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o’r angen i gyfiawnhau amcanion polisi i San Steffan wrth gyflwyno Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol. OAQ(3)0081(CGE)

6. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y gwahaniaeth rhwng nifer y Materion a ddatganolwyd i Gymru drwy’r broses Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor a’r rheini a roddwyd fel pwerau Fframwaith. OAQ(3)0082(CGE)

7. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am unrhyw ymatebion y mae wedi’u rhoi i ymgynghoriadau ar faterion nas datganolwyd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.  OAQ(3)0088(CGE)

8. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A yw’r Cwnsler Cyffredinol wedi gwneud unrhyw asesiad o’r rhwystrau cyfreithiol sy’n atal y Cynulliad rhag gostwng yr oed pleidleisio i 16. OAQ(3)0078(CGE)

9. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am sut y mae’n pennu pryd y bydd hi’n briodol mynegi safbwynt ar faterion sy’n ymwneud â materion cyfreithiol.  OAQ(3)0084(CGE)

10. Alun Ffred Jones (Arfon): Pa ystyriaeth y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i rhoi i effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd prosesau deddfwriaethol y Cynulliad. OAQ(3)0091(CGE) W

11. William Graham (Dwyrain De Cymru): Yn dilyn ei ateb i OAQ(3)0073(CGE), a all y Cwnsler Cyffredinol nawr egluro sut y caiff ymatebion y Llywodraeth i ymgynghoriadau ar faterion nas datganolwyd eu cyhoeddi er mwyn galluogi’r Cynulliad hwn i graffu arnynt. OAQ(3)0086(CGE) TYNNWYD YN ÔL

12. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael ynghylch y broses gyfreithiol y gellir ei defnyddio i ddatganoli rheoliadau adeiladu. OAQ(3)0079(CGE)

13. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu statws cyfreithiol confensiwn Cymru gyfan a’i berthynas gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru. OAQ(3)0093(CGE)

14. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu ei gyfrifoldebau statudol dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. OAQ(3)0094(CGE)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

1. Janice Gregory (Ogwr): A wnaiff y Gweinidog roi adroddiad cynnydd am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i wella lles cymdeithasol ac economaidd cymunedau gwledig drwy annog grwpiau mwy amrywiol o bobl i ymweld â chefn gwlad Cymru. OAQ(3)0201(RAF)

2. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei chynlluniau i hyrwyddo defnyddio cynnyrch lleol. OAQ(3)0198(RAF)

3. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei nodau ar gyfer cymunedau gwledig yn 2008. OAQ(3)0167(RAF)

4. Sandy Mewies (Delyn): Pa gamau sy’n cael eu cymryd gan y Gweinidog i fonitro straen H5N1 o’r Ffliw Adar yng Nghymru. OAQ(3)0185(RAF)

5. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pryd oedd y tro diwethaf i’r Gweinidog gwrdd â’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i drafod pecyn cymorth ar gyfer ffermwyr Cymru. OAQ(3)0208(RAF)

6. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y strategaeth pysgodfeydd. OAQ(3)0217(RAF) W

7. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i hybu ffermio organig yng Nghymru. OAQ(3)0171(RAF)

8. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer lles anifeiliaid. OAQ(3)0175(RAF)

9. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cyfraniad Llywodraeth Cynulliad Cymru at benodi’r Corff Ymgynghorol Gwyddoniaeth TB mewn Gwartheg. OAQ(3)0188(RAF)

10. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynllun gwaredu ŵyn. OAQ(3)0211(RAF) W

11. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynaliadwyedd gwledig. OAQ(3)0215(RAF)

12. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am storio nitradau ar ffermydd. OAQ(3)0214(RAF)

13. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi adroddiad am y cynnydd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i wella lles cymdeithasol ac economaidd cymunedau gwledig drwy annog grwpiau mwy amrywiol o bobl i ymweld â chefn gwlad Cymru. OAQ(3)0205(RAF)

14. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i wella lles cymdeithasol ac economaidd cymunedau gwledig drwy annog grwpiau mwy amrywiol o bobl i ymweld â chefn gwlad Cymru. OAQ(3)0204(RAF)

15. Gareth Jones (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau a gymerwyd i symleiddio biwrocratiaeth a chyflymu rhyddhau taliadau i ffermwyr dan y Cynllun Taliad Sengl.  OAQ(3)0196(RAF) Tynnwyd yn ôl