01/02/2008 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 25 Ionawr 2008 i’w hateb ar 1 Chwefror 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch Confensiwn Cymru gyfan gan gynnwys a fydd yn ystyried (a) diwygio trefniadau etholiadol a (b) diwygio nifer Aelodau’r Cynulliad. (WAQ51072)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch datganoli pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y dyfodol. (WAQ51073)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd o ran newid hawliau datblygu a ganiateir er mwyn cynnwys technolegau microgynhyrchu. (WAQ51051)

Leanne Wood (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r Adran Masnach a Diwydiant ynghylch materion sy’n ymwneud â thalu am drydan a allforir o ficrogynhyrchu. (WAQ51052)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr effaith ar floc Barnett oherwydd bod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n gwrthod ystyried prosiectau menter cyllid preifat mewn iechyd. (WAQ51060)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Gweinidog wedi ymgynghori â Llywodraeth y DU gyda golwg ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus drwy rwydwaith Swyddfa’r Post. (WAQ51063)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch sefydlu Comisiwn i adolygu cyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru ac, os felly, beth fyddai’r (a) amserlen ar gyfer ei sefydlu (b) ei ddull gweithredu (a) ei gwmpas tebygol a (d) polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer ymateb i’w argymhellion. (WAQ51070)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y cyllid ar gyfer y Gemau Olympaidd ar gyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru o fformiwla Barnett. (WAQ51071)

Gofyn i'r Gweinidog dros Dreftadaeth

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y cyllid ar gyfer y Gemau Olympaidd ar wariant ar draws y portffolio Treftadaeth. (WAQ51069)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion a dyddiadau unrhyw drafodaethau y mae wedi’u cael neu y bydd yn eu cael gydag arweinwyr llywodraeth leol ynghylch effaith y codiadau rhagamcanol mewn prisiau nwy ar eu cyllidebau. (WAQ51061)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith y codiadau rhagamcanol mewn prisiau petrol, nwy a thrydan ar y gyllideb ar gyfer Awdurdod Lleol Powys, ac a yw’n bwriadu cynnal trafodaethau gydag Awdurdod Lleol Powys am y mater hwn. (WAQ51062)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch lleihau rheoliadau ar Swyddfeydd Post sy’n tynnu’n groes i’w goroesiad. (WAQ51064)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi’u cael gyda heddluoedd Cymru ynghylch dyfarniad cyflafareddu Cyflog yr Heddlu. (WAQ51065)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi eu cyflwyno i’r Swyddfa Gartref ynghylch dyfarniad cyflafareddu Cyflog yr Heddlu. (WAQ51066)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r Swyddfa Gartref ynghylch dyfarniad cyflafareddu Cyflog yr Heddlu. (WAQ51067)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa sylwadau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch dyfarniad cyflafareddu Cyflog yr Heddlu. (WAQ51068)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Tir Gofal. (WAQ51059)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Beth yw’r gyllideb ar gyfer Tir Gofal yn 2008/2009. (WAQ51058)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Faint y mae’r Gweinidog yn ei ddisgwyl i ymuno â Tir Gofal o’r newydd yn 2008/2009. (WAQ51057)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Beth yw’r amcanestyniad blynyddol ar gyfer y rheini a fydd yn ymuno â Tir Gofal o’r newydd yn ystod y Cynllun Datblygu Gwledig nesaf. (WAQ51056)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Beth yw’r gyllideb ragamcanol ar gyfer Tir Gofal ar gyfer y Cynllun Datblygu Gwledig nesaf. (WAQ51055)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Beth oedd y gyllideb flynyddol ar gyfer Tir Gofal yn ystod y Cynllun Datblygu Gwledig diwethaf. (WAQ51054)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Faint a ymunodd o’r newydd â Tir Gofal fesul blwyddyn yn ystod y Cynllun Datblygu Gwledig diwethaf. (WAQ51053)