Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 25 Ebrill 2013 i’w hateb ar 2 Mai 2013
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi gwybod i mi pa ymgynghorydd y mae hi wedi ei benodi i ystyried bid Neuadd Farchnad y Drenewydd am gefnogaeth ariannol gan y llywodraeth? (WAQ64613)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn WAQ61938, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau’r pris terfynol a gafwyd wrth werthu’r Technium. (WAQ64614)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ganran o ambiwlansys wnaeth ymateb i alwadau brys o fewn wyth munud yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn y chwe mis diwethaf? (WAQ64612)