Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 25 Mehefin 2008 i’w hateb ar 02 Gorffennaf 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A yw'r Gweinidog wedi cynnal astudiaeth o oblygiadau cost y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion. (WAQ51939)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pryd fydd y Gweinidog yn cyflwyno cylch gorchwyl ar gyfer Penaethiaid Cyswllt, fel y cyfeiriwyd ato yn y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion. (WAQ51940)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o gyllid ychwanegol fydd ar gael i Benaethiaid Cyswllt weithredu mesurau ar gyfer gweithio'n fwy effeithiol, yn unol â'r fframwaith effeithiolrwydd ysgolion. (WAQ51941)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ystyriaethau y mae'r Gweinidog wedi'u rhoi i'r effaith y caiff y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion ar faich gwaith Penaethiaid. (WAQ51942)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): O ran y gwaith ffordd ar yr A55 ym Mhentre Helygain, beth yw cost cyllideb y cynllun. (WAQ51935)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Am faint y bydd y gwaith ffordd ar yr A55 ym Mhentre Helygain yn mynd ymlaen. (WAQ51936)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Beth yw diben y gwaith ffordd ar yr A55 ym Mhentre Helygain. (WAQ51937)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): O ran y gwaith ffordd ar yr A55 ym Mhentre Helygain, pa fynediad arall ar gyfer teithio i'r gorllewin ar yr A55 sydd ar gael iddynt ar hyn o bryd. (WAQ51938)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dynnu cyllid yn ôl o gynllun y meddygon teulu i atgyfeirio cleifion i gymryd rhan yn rheolaidd mewn ymarfer corff a gynlluniwyd ac a reolwyd. (WAQ51933)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth Clinigau Meddygaeth Cenhedlol-droethol (GUM
) ym Mhowys. (WAQ51934)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sgrinio Clamidia yng Nghymru. (WAQ51943)