02/10/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 2 October 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar
2 Hydref 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddweud beth yw cost cyfraniad Llywodraeth Cynulliad Cymru at gynhyrchu cyhoeddiad TUC Cymru 'A Better to Work in Wales’ (WAQ54885)

Rhoddwyd ateb ar 09 Hydref 2009

Gallaf gadarnhau nad yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi darparu unrhyw arian tuag at y broses o greu adnodd TUC Cymru, Ffordd Well o Weithio yng Nghymru. Yr unig gyfraniad a wnaed oedd peth amser swyddogol i sicrhau bod yr adnodd, a ddatblygwyd i'w ddefnyddio yn Lloegr yn wreiddiol, wedi'i addasu'n briodol i'w ddefnyddio mewn ysgolion yng Nghymru.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn ateb y Gweinidog i WAQ54585, a wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o holl dreuliau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ffioedd syrfewyr a chyfreithiol ar gyfer gwerthu tir. (WAQ54887)

Rhoddwyd ateb ar 03 Tachwedd 2009

Ysgrifennaf mewn ymateb i’ch Cwestiwn Ysgrifenedig yn gofyn am fanylion holl dreuliau Llywodraeth y Cynulliad ar ffioedd cyfreithiol a syrfewyr ar gyfer gwerthu tir ar gyfer y 5 mlynedd diwethaf.

Mae’r manylion fel a ganlyn:

• 2004/05 £103,828.43

• 2005/06 £81,040.20

• 2006/07 £674,596.50

• 2007/08 £78,791.42

• 2008/09 £75,915.57

Byddwch yn sylwi bod y ffigur ar gyfer 2006/07 yn uwch nag ar gyfer blynyddoedd eraill. Y rheswm am hyn yw bod costau’r flwyddyn honno yn ymwneud yn bennaf â SA1, gan gynnwys holl ffioedd Eversheds, ond gan adlewyrchu hefyd lefel uchel iawn o gostau yn ystod y flwyddyn.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru’r holl ddyddiadau pan gyfarfu’r grŵp sy’n goruchwylio gweithredu canfyddiadau Adroddiad Routledge ers ei greu. (WAQ54886)

Rhoddwyd ateb ar 7 Hydref 2009

Cyfarfu'r Grŵp Gweithredu ddwywaith yn ystod yr haf ar 20 Mai a 8 Mehefin i nodi'r materion craidd ar gyfer gweithredu a'r tasgau dyranedig i'r aelodau. Mae rhai o'r argymhellion eisoes wedi'u cwblhau, er enghraifft mabwysiadwyd cyngor atodol ar driniaethau ymestyn bywyd/diwedd oes a gyhoeddwyd gan NICE yn gynharach eleni gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan. Mae'r Grŵp wedi ystyried ymhellach faterion allweddol eraill gan gynnwys ehangu cylch gwaith Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan i gynnwys arfarnu pob meddyginiaeth newydd yng Nghymru; datblygu model arfaethedig ar gyfer ymdrin â cheisiadau am ariannu triniaeth gan gleifion unigol; a, hyfforddiant ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol i'w helpu i gyfathrebu'n effeithiol â chleifion ynglŷn â phenderfyniadau anodd yn ymwneud â risgiau a buddiannau triniaethau gwahanol.

Mae'r Cadeirydd wedi llunio adroddiad interim yn ddiweddar ar y cynnydd a wnaed o ran gweithredu'r argymhellion. Rwyf wedi nodi'r adroddiad a byddaf yn ystyried unrhyw oblygiadau o ran ariannu fel rhan o'm trafodaethau ar gyfer cyllideb 2010-11.