02/11/2010 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26 Hydref 2010 i’w hateb ar 02 Tachwedd 2010

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Veronica German (Dwyrain De Cymru): A yw'r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi'r cylch gorchwyl ar gyfer yr astudiaeth y mae ei Adran yn ei chyllido ar effaith tollau Hafren ar yr economi ac, os felly, pryd bydd ar gael i Aelodau'r Cynulliad. (WAQ56686)

Veronica German (Dwyrain De Cymru): Pa gyfarwyddyd y mae eich Adran wedi'i gyhoeddi ynghylch pwy ddylid ymgynghori â nhw fel rhan o'r astudiaeth ar effaith tollau Hafren ar yr economi. (WAQ56687)

Veronica German (Dwyrain De Cymru): Pa gyfarwyddyd y mae eich Adran wedi'i gyhoeddi i'r sefydliad sy'n cynnal yr astudiaeth ar effaith tollau Hafren ar yr economi. (WAQ56688)

Veronica German (Dwyrain De Cymru): Pryd y mae'r Gweinidog yn disgwyl y bydd yr astudiaeth ar effaith tollau Hafren ar yr economi yn adrodd ar ei chanfyddiadau. (WAQ56689)

Veronica German (Dwyrain De Cymru): Pa ymgynghoriadau y mae'n rhaid eu cynnal gan y sefydliad sy'n cynnal yr astudiaeth ar effaith tollau Hafren ar yr economi. (WAQ56690)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa effaith y mae cost cefnogaeth gyfreithiol allanol ar gyfer Gorchymyn Dileu Twbercwlosis (Cymru) 2009 wedi'i chael ar gyflenwi'r rhaglen dileu TB. (WAQ56684)

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): O ba linell yn y gyllideb y talwyd am y costau cyfreithiol allanol cyffredinol ar gyfer Gorchymyn Dileu Twbwrcwlosis (Cymru) 2009. (WAQ56685)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A fydd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn gallu gwneud cais am gyllid yn y dyfodol drwy'r Cynllun Grant Gwirfoddolwyr y Mileniwm. (WAQ56691)