02/11/2011 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26 Hydref 2011 i’w hateb ar 2 Tachwedd 2011

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi manylion faint o gyllid cydgyfeirio a roddwyd o'r neilltu ar gyfer Cynllun Arloesi Tywysog Cymru (POWIS). (WAQ58215)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Faint o gyllid sydd wedi’i ymrwymo ond heb ei dynnu i lawr eto ar gyfer POWIS. (WAQ58216)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Beth oedd y dyddiad gorffen/amserlen ar gyfer POWIS. (WAQ58217)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog restru pob ysgolor POWIS, eu cymwysterau a’r brifysgol roeddent wedi’u cofrestru ynddi. (WAQ58218)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Gweinidog wedi eu cynnal â’r Grwp Dydd Gwyl Dewi ynghylch POWIS. (WAQ58219)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn ei hateb i WAQ58106, a wnaiff y Gweinidog nodi pa unigolion a/neu fusnesau a gyflogwyd ar gyfer pob gwasanaeth a gyflenwyd yn ystod y gwaith o ddatblygu a gweithredu cynllun amaeth-amgylchedd Glastir. (WAQ58223)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o’r holl wariant o dan Echel Cymorth Technegol Cynllun Datblygu Gwledig Cymru yn ystod y blynyddoedd ariannol 2009-10 a 2010-11. (WAQ58224)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 19 Hydref 2011 o’r enw ‘Hawlio taliadau Ewropeaidd ddwywaith ar yr un tir’, a wnaiff y Gweinidog roi esboniad ynghylch y cynigion i ‘gynyddu’r rheolaethau’ o 2012 ymlaen. (WAQ58225)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa fuddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i gefnogi busnesau morol yng Nghymru. (WAQ58226)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A fydd Papur Gwyrdd yn cael ei gyhoeddi ar y Bil Strwythurau, Llywodraethu ac Anghenion Addysgol Arbennig (Cymru). (WAQ58221)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa sylwadau y mae wedi’u cael ynghylch y cynigion gan Gyngor Sir Caerfyrddin i ad-drefnu addysg uwchradd. (WAQ58222)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion unrhyw drafodaethau a chyfarfodydd y mae wedi cymryd rhan ynddynt yn ystod 2011 ynghylch darparu addysg cyfrwng Cymraeg yn sir Gaerfyrddin. (WAQ58227)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth yw swyddogaeth pwyllgorau fformiwlari / therapiwteg a chyffuriau lleol ar lefel bwrdd iechyd ac ar lefel leol ar ôl i gynnyrch gael ei gymeradwyo gan naill ai Grwp Strategol Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) neu NICE. (WAQ58220)

Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ystyried ei gwneud yn ofynnol bod byrddau iechyd yn cyhoeddi nifer y ceisiadau ar gyfer cyffuriau drud penodol o dan y broses Cais Cyllido Claf Unigol, ynghyd â nifer y ceisiadau a gymeradwywyd ac a wrthodwyd ar gyfer cyffuriau penodol. (WAQ58228)