02/11/2017 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 27/10/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/10/2017

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26 Hydref 2017 i'w hateb ar 2 Tachwedd 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.​

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu dadansoddiad o gyfrifiadau penodol Llywodraeth Cymru o'r manteision economaidd a ddaw yn sgîl ymfudo yng Nghymru yng ngoleuni adroddiad yr Arsyllfa Ymfudo, 'Lleoliad, Lleoliad, Lleoliad'? (WAQ74492)

Ateb i ddilyn.

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am honiad yr Arsyllfa Ymfudo ym Mhrifysgol Rhydychen ynghylch fisas ymfudo rhanbarthol, nad oes dim ffordd wrthrychol i gytuno ar beth yw'r anghenion economaidd rhanbarthol o ran ymfudo mewn gwirionedd, felly mae'n anodd gwybod a fyddai mwy o reolaeth ranbarthol yn arwain at fanteision economaidd? (WAQ74493)

Ateb i ddilyn.

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r risgiau a'r cyfleoedd ar gyfer pob sector diwydiannol yng Nghymru o ran ymadael â'r Undeb Ewropeaidd? (WAQ74494)

Ateb i ddilyn.

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu dadansoddiad o'r cynllunio wrth gefn a wnaed hyd yma, a'r adnoddau a ddefnyddiwyd gan adrannau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys costau staffio a chostau gweinyddol, i baratoi ar gyfer 'dim bargen' posibl gydag Ewrop? (WAQ74495)

Ateb i ddilyn.

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa ganllawiau ac adnoddau y mae'r Prif Weinidog ac adrannau Llywodraeth Cymru wedi'u darparu i gyrff cyhoeddus i gynllunio ar gyfer senario 'dim bargen'? (WAQ74496)

Ateb i ddilyn.

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddadansoddiad o'r ymrwymiadau y mae wedi eu cael ar draws Ewrop ac yn fyd-eang ynglŷn â gadael yr Undeb Ewropeaidd ers mis Mehefin 2016? (WAQ74497)

Ateb i ddilyn.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa bryderon allweddol a oedd gan Ysgrifennydd y Cabinet a'u rhybuddiodd fod angen cynnal  adolygiad mewn cysylltiad â cham presennol y gwaith Gwella Blaenau'r Cymoedd. Pryd y daeth y pryderon hyn i'r amlwg, a phryd y daethant mor ddifrifol nes bod angen comisiynu adolygiad? (WAQ74505)

Ateb i ddilyn. 

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): O ran yr adolygiad a gomisiynwyd yn ddiweddar o gostau ac amseriadau cwblhau cam presennol y gwaith Gwella Blaenau'r Cymoedd, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau'r cylch gorchwyl a roddwyd ar gyfer yr adolygiad, a'r dyddiad y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno ar yr adolygiad? (WAQ74506)

Ateb i ddilyn.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu â busnesau a chymunedau yr effeithir arnynt gan y gwaith ffordd presennol o gwmpas datblygiad Blaenau'r Cymoedd? (WAQ74507)

Ateb i ddilyn.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu gwasanaethau'r GIG ar gyfer pobl fyddar yng Nghanol De Cymru?  (WAQ74508)

Ateb i ddilyn.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu gwybodaeth am y benthyciadau a'r grantiau adfywio a oedd ar gael i awdurdodau lleol yn 2012, 2013, 2014, 2015 a 2016, gan gynnwys pa rai a fanteisiodd arnynt a dadansoddiad ariannol fesul awdurdod lleol, fesul blwyddyn a fesul prosiect? (WAQ74498)

Ateb i ddilyn.

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o bwy sydd wedi manteisio arnynt, a chanlyniadau'r rhaglen gyfalaf Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, yn erbyn ei dangosyddion perfformiad allweddol? (WAQ74499)

Ateb i ddilyn.

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu dadansoddiad o gyfraddau swyddi gwag yng nghanol trefi yn 2013, 2014, 2015, 2016 a 2017 o blith yr awdurdodau lleol hynny sydd wedi manteisio ar y benthyciadau Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid? (WAQ74500)

Ateb i ddilyn.

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): O ran ei ymateb i WAQ74355, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi manylion am ganlyniadau ei gyfarfodydd gydag is-grŵp dosbarthu y Cyngor Partneriaeth Awdurdodau Lleol ar y fformiwla dosbarthu ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl? (WAQ74501)

Ateb i ddilyn.

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): O ran ei ymateb i WAQs 74357 a 74358, pa randdeiliaid y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â hwy i drafod cyfleoedd i resymoli gweinyddiaeth grantiau o fewn ei bortffolio? Pryd y mae'n disgwyl ymateb gan Fwrdd Cynghori Cenedlaethol Cefnogi Pobl ac a fydd yn ymrwymo i gyhoeddi eu safbwyntiau? (WAQ74502)

Ateb i ddilyn.

Darren Millar (Gorllewin Clwyd):​ Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ynghylch cyllid o £215,000 i wella gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod, a fydd unrhyw swm o'r arian hwn yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol Cymru ac, os felly, faint fydd pob un yn ei gael? (WAQ74504)

Ateb i ddilyn.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Nick Ramsay (Mynwy): O ran yr ymateb i WAQ74364, a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn darparu'r union ffigyrau a chyfrifiadau, yn ogystal â dadansoddiadau awdurdodau lleol, a arweiniodd at y casgliad mai effaith fach y bydd y dreth trafodion tir yn ei chael ar economïau lleol ac economïau ffiniol? (WAQ74489)

Ateb i ddilyn.

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu dadansoddiad manwl, ar ffurf tabl, ar y dosbarthiad blwyddyn sylfaen ar gyfer amcangyfrifon y Dreth Trafodiadau Tir preswyl yn 2018-19, o ran nifer y trafodiadau, y cyfanswm gwerth eiddo fesul bin, a faint o refeniw treth a ragwelir fesul band? (WAQ74490)

Ateb i ddilyn.

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu dadansoddiad manwl, ar ffurf tabl, ar y dosbarthiad blwyddyn sylfaen ar gyfer amcangyfrifon y Dreth Trafodiadau Tir dibreswyl yn 2018-19, o ran nifer y trafodiadau, y cyfanswm gwerth eiddo fesul bin, a faint o refeniw treth a ragwelir fesul band? (WAQ74491)

Ateb i ddilyn.

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg 

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i ymestyn y rhestr o bobl sydd wedi cofrestru i ddarparu gwaith ieuenctid gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg i weithwyr ieuenctid sy'n gweithio i grwpiau ffydd a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig? (WAQ74503)

Ateb i ddilyn.