02/12/2014 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 26/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/03/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 25 Tachwedd 2014 i'w hateb ar 2 Rhagfyr 2014

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau) Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig bum diwrnod gwaith o leiaf cyn y maent i gael eu hateb. Yn ymarferol, mae'r Gweinidogion yn ceisio ateb rhwng saith ac wyth diwrnod, ond nid yw'n orfodol iddynt wneud hynny. Cyhoeddir yr atebion yn yr iaith y'u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a roddir yn y Gymraeg.

 

Gofyn i'r Prif Weinidog

Alun Ffred Jones (Arfon): Faint o weithwyr Llywodraeth Cymru sydd wedi cael dyrchafiad yn: a) Caerdydd; b) Aberystwyth; a c) Cyffordd Llandudno yn y pedair blynedd diwethaf? (WAQ68064W)


Derbyniwyd ateb ar 28 Tachwedd 2014

Y Prif Weinidog o Cymru (Carwyn Jones): Mae staffio o fewn Llywodraeth Cymru yn fater i'r Ysgrifennydd Parhaol. Yr wyf wedi gofyn iddo ysgrifennu atoch ar wahân gyda'r wybodaeth yr ydych wedi gofyn amdani.