03/03/2009 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 24 Chwefror 2009 i’w hateb ar 03 Mawrth 2009

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y Pecyn Prentisiaethau gwerth £20m gan gynnwys (a) pryd y mae’n debygol o gael ei gymeradwyo gan WEFO, (b) faint sy’n cael ei geisio gan Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd a faint o arian cyfatebol y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei gyfrannu, a (c) o fewn y pecyn prentisiaethau i gyd, y swm a roddir i Brentisiaethau wedi’u harwain gan Raglen. (WAQ53513)

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cronfeydd cyfalaf sydd ar gael ar gyfer Addysg Bellach yn y flwyddyn ariannol bresennol, gan gynnwys faint sydd wedi cael ei ddyrannu i Addysg Bellach a faint sydd heb ei wario. (WAQ53514)

Michael German (Dwyrain De Cymru): Faint o ddarparwyr hyfforddiant preifat, sy’n cynnig dysgu seiliedig ar waith i oedolion, sy’n cael arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi methu naill ai 1 neu 2 arolygiad gan Estyn. (WAQ53530)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa amcanestyniadau ac asesiadau y mae’r Gweinidog wedi’u gwneud ar gyfer twf yn y galw am ofal henoed bregus eu meddwl yng Nghymru dros y 5, 10 ac 20 mlynedd nesaf ac a wnaiff ddatganiad. (WAQ53515)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pryd y mae’r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi ei hamcanion polisi a’i strategaeth diweddaraf ynghylch gofal yr henoed ac yn enwedig gofal henoed bregus eu meddwl. (WAQ53516)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gyhoeddi strategaeth ar gyfer gofal i gleifion dementia yng Nghymru. (WAQ53519)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pryd y mae’r Gweinidog yn disgwyl cyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer gofal henoed yng Nghymru. (WAQ53520)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa gyfarwyddyd fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei gyhoeddi i awdurdodau lleol am ofal henoed yng Nghymru ac yn enwedig henoed bregus eu meddwl. (WAQ53522)

Michael German (Dwyrain De Cymru): Pryd y mae’r Gweinidog yn disgwyl gwneud penderfyniad am y cynnig i ailadeiladu Canolfan Iechyd Ringland. (WAQ53524)

Michael German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu copïau o’r holl ohebiaeth rhwng ei hadran a Bwrdd Iechyd Lleol Casnewydd ynghylch datblygiad Canolfan Iechyd Ringland. (WAQ53527)

Michael German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa fesurau interim y bydd eu hangen yng nghyswllt ffurfweddu adeiladau a staffio o ganlyniad i’r oedi wrth fynd â Rhaglen Dyfodol Clinigol Gwent rhagddi. (WAQ53528)

Michael German (Dwyrain De Cymru): Pryd y mae’r Gweinidog yn rhagweld y bydd y gymuned iechyd yn gallu ymateb i’r cais am ragor o waith sy’n deillio o adroddiad Jones ar Ddyfodol Clinigol Gwent. (WAQ53529)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa lefel o adnoddau a ddyrennir i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl i garcharorion a sut y mae hyn wedi newid ers datganoli’r cyfrifoldeb hwn. (WAQ53531)

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa Fyrddau Iechyd Lleol sy’n gyfrifol am iechyd carcharorion, a pha rai o’r Byrddau Iechyd Lleol hynny sydd wedi cynnal asesiad o’r rheini i gyd sydd yn eu gofal ar gyfer pob blwyddyn ers ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros y gwasanaeth. (WAQ53532)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gyhoeddi strategaeth i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod. (WAQ53517)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch y rhesymau dros eithrio Cymru o strategaeth Llywodraeth y DU i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod. (WAQ53518)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pryd y mae’r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi strategaeth i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod. (WAQ53521)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gynyddu’r trothwy ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach i helpu busnesau bach yn y dirwasgiad presennol. (WAQ53525)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda chyd-Weinidogion ac eraill i gynyddu’r trothwy ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach i helpu busnesau bach yn y dirwasgiad presennol. (WAQ53526)