03/03/2010 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 24 Chwefror 2010 i’w hateb ar 03 Mawrth 2010

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros a thargedau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer sgrinio am ganser y coluddyn (WAQ55707)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth oedd y cyfanswm a wariwyd ar raglen Her Iechyd Cymru ym mhob blwyddyn ers ei sefydlu, fesul ardal awdurdod lleol.  (WAQ55709)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i fynd i’r afael â gordewdra ymhlith plant yng Nghymru. (WAQ55710)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa ddangosyddion perfformiad sydd ar waith ar gyfer y rhaglen Her Iechyd Cymru. (WAQ55712)

Janet Ryder (Gogledd Cymru): A chofio y dylai pob meddyg dan hyfforddiant gael un prynhawn ar gyfer hyfforddiant fel ymarferydd cyffredinol, mewn ysbytai gyda swyddi hyfforddi cofrestryddion mewn practis cyffredinol, sawl meddyg dan hyfforddiant sydd wedi cwblhau ei gwota llawn o hyfforddiant, a pha ganran sy’n cael ei gymryd o'r cyfanswm o hyfforddiant hanner diwrnod.  (WAQ55713)