03/03/2011 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 24 Chwefror 2011 i’w hateb ar 03 Mawrth 2011

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r amserlen ar gyfer gwaith ffordd ar yr A55 yn y Gogledd rhwng 2011 a 2012. (WAQ57270)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw cyfanswm y gost i’r GIG er mwyn paratoi i ddarparu triniaeth IVF yn lle’r hyn a ddarparwyd gan y London Women’s Clinic ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o’r holl gostau yn cynnwys adeiladau, cyfarpar a chostau cysylltiedig eraill. (WAQ57272)

Christine Chapman (Cwm Cynon): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cymryd i gynyddu’r capasiti yng Nghymru i drin pobl sy’n ddibynnol ar alcohol, a beth yw’r amseroedd aros cyfartalog ar hyn o bryd ar gyfer triniaeth o’r fath. (WAQ57273)

Christine Chapman (Cwm Cynon): A oes unrhyw amcangyfrif ar gael o ganran y bobl sy’n ddibynnol ar alcohol yng Nghymru sy’n cael triniaeth am eu dibyniaeth. (WAQ57274)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r risgiau y bydd ffermwyr sydd wedi ymestyn eu cytundebau Tir Gofal tan 2013 yn wynebu anawsterau a/neu’n methu ag ymuno â’r Elfen wedi’i Thargedu o Glastir.  (WAQ57271)