03/07/2007 - Written Assembly Questions

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 3 Gorffennaf 2007

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o bobl a gyflogir, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac a wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad blynyddol o’r ffigurau hyn dros yr 8 mlynedd diwethaf. (WAQ50125)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog restru’r 50 cyflogwr uchaf yng Nghymru o ran y niferoedd a gyflogir yn ôl ei adran ef. (WAQ50124)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig

Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch pryd y cymeradwyir ceisiadau a wnaed yn ystod 2007 i drosi i Ffermio Organig dan y Cynllun Datblygu Gwledig. (WAQ50123)