Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 26 Medi 2011 i’w hateb ar 3 Hydref 2011
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pam nad yw’r Adran Addysg a Sgiliau yn casglu data am faint o blant yn gadael gofal a gyflawnodd 5 gradd A*-C gan gynnwys Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg a Gwyddoniaeth (Lefel 2 yn y pynciau craidd). (WAQ58069)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ystyried casglu data yn y dyfodol am faint o blant yn gadael gofal a gyflawnodd 5 gradd A*-C gan gynnwys Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg a Gwyddoniaeth (Lefel 2 yn y pynciau craidd). (WAQ58070)
Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am y broses a ddefnyddir gan ei Adran i reoleiddio cymwysterau ac asesiadau yng Nghymru. (WAQ58071)
Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r berthynas rhwng ei Adran, y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau(Ofqual), ac Awdurdod Cymwysterau’r Alban (SQA). (WAQ58072)
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa ganran o arholiadau a) TGAU a b) Safon Uwch yng Nghymru a weinyddir gan bob bwrdd arholi. (WAQ58073)
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Faint mae Adran y Gweinidog yn ei wario ar reoleiddio cymwysterau ac asesiadau yng Nghymru. (WAQ58074)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A oes gan Lywodraeth Cymru ffigurau ar gyfer cwmnïau o’r tu allan i Gymru sy’n ennill contractau caffael Llywodraeth Cymru ond sydd wedyn yn eu his-gontractio i gwmnïau o Gymru, ac os felly, a all ddarparu’r holl ffigurau sydd ar gael. (WAQ58068)