03/11/2015 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 28/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/11/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 27 Hydref 2015 i'w hateb ar 3 Tachwedd 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig bum diwrnod gwaith o leiaf cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, mae'r Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid yw'n orfodol iddynt wneud hynny.  Cyhoeddir yr atebion yn yr iaith y'u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a roddir yn Gymraeg.

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  Yn dilyn ei ateb i WAQ69293, a wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau bod yr aelodau o Lywodraeth Cymru a benodir i Bwyllgor y Rhanbarthau yn cael eu penodi o ganlyniad i gais ganddo ef yn unig ac na osodir unrhyw hysbyseb swyddogol ac na cheisir ceisiadau ar eu cyfer? (WAQ69348)

Derbyniwyd ateb ar 10 Tachwedd 2015

Prif Weinidog Cymru (Carwyn Jones):  I will write to you and a copy of the letter will be put on the internet.

Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys a Phrif Weithredwr GIG Cymru ynghylch priodoldeb y gyfradd derbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru yng nghyd-destun y gwasanaethau a ddarperir yn Ysbyty Llwynhelyg? (WAQ69347)

Derbyniwyd ateb ar 10 Tachwedd 2015

Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Mark Drakeford):

The Deputy Minister for Health met the chair of the Welsh branch of the Royal College of Emergency Medicine on 16 July

Patients are not admitted to accident and emergency departments.

Decisions about whether to admit patients to hospital are made by clinicians who are best placed to decide on the best course of action to optimise outcomes for patients on a case-by-case basis.