03/12/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 3 Rhagfyr 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 3 Rhagfyr 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i Gynrychiolydd Comisiwn y Cynulliad

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Badman yn Lloegr, a oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i gynnal adolygiad o addysg yn y cartref yng Nghymru. (WAQ55205)

Rhoddwyd ateb ar 4 Rhagfyr 2009

Argymhellodd Adolygiad Badman nifer o gamau i wella'r gwaith o fonitro addysg yn y cartref, y mae llawer ohonynt yn cael eu cyflwyno ar gyfer Lloegr yn unig yn y Mesur Plant, Ysgolion a Theuluoedd. Dymuna Llywodraeth Cynulliad Cymru ystyried y materion ar wahân yn y cyd-destun Cymreig a chyda'r holl randdeiliaid allweddol, gan gynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau addysg yn y cartref, cyn ystyried pa mor briodol yw rhoi ein deddfwriaeth unigryw ein hunain ar waith. Felly, gwnaed y penderfyniad i gymryd pŵer creu mesur yn y maes hwn y gallem ei ddefnyddio, os yn briodol, ar ôl i'r broses ymgynghori yng Nghymru ddod i ben.

Gwneir ein gwaith cychwynnol gyda Grŵp Cynhwysiant Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, a fydd yn cymharu ac yn rhannu polisi ac arfer cyfredol mewn awdurdodau lleol.  Llywir ein dull gweithredu yn y dyfodol gan ein gwaith cwmpasu yn ogystal ag ystyried y canlyniadau a ddaw o'r adolygiad yn Lloegr.  Byddwn yn sicrhau bod yr holl randdeiliaid allweddol yn rhan o'r broses wrth gymryd unrhyw gamau.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o sut y gwarir y £35 miliwn o gyllid a neilltuwyd ar gyfer Ebbw Vale Learning Works dan Haen 2 proses y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol. (WAQ55210)

Rhoddwyd ateb ar 8 Rhagfyr 2009

Mae'r prosiect Learning Works yn rhan sylweddol o brosiect adfywio mawr ar hen safle gwaith Dur Corus yng Nglynebwy. Amcangyfrif mai £112.5m fydd cyfanswm cost y prosiect Learning Works, a disgwylir i'r gwaith adeiladu ddechrau yn gynnar yn 2010.

Mae'r prosiect hwn yn enghraifft dda o wasanaethau integredig ar un safle, a bydd yn rhoi cyfleoedd i gyflawni arbedion maint ac arbedion effeithlonrwydd drwy'r defnydd priodol o lwybrau caffael.

Bydd grant gwerth £35m o'r Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol yn cyfrannu'n sylweddol at gyfanswm cost y prosiect a gaiff ei ddefnyddio ar draws nifer o feysydd gwasanaethau cyhoeddus; gan gynnwys darparu Ardal Ddysgu ôl-16, canolfan hamdden a chyfleusterau celfyddydau a darpariaeth ysgol yn cynnwys darpariaeth 3-16 a darpariaeth AAA. Caiff yr arian hefyd ei ddefnyddio ar gyfer gwaith seilwaith i alluogi'r gwasanaethau cyhoeddus i gael eu hintegreiddio.

Mae'r 'Ardal Ddysgu' yn bartneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Coleg Gwent a Phrifysgol Cymru Casnewydd, ac mae'n cynrychioli cam cyntaf y cynllun trawsnewidiol i ddarparu dysgu ar gyfer yr 21ain Ganrif ar safle'r Gwaith, gyda'r nod cyffredinol o drawsnewid y ddarpariaeth ddysgu ym Mlaenau Gwent a'r agweddau tuag ati. Bydd yn creu 'newid sylweddol' o ran y ddarpariaeth sgiliau ac addysg yn ardaloedd Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd. Mae'r prosiect yn cydymffurfio â gweledigaeth 'Cymru'n Un' Llywodraeth Cynulliad Cymru i sefydlu Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif; ynghyd â Llwybrau Dysgu 14-19 a'r Agenda Trawsnewid ar gyfer addysg ôl-16.

Roeddwn yn hynod o falch o sicrhau £35m o'r Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol i gynorthwyo gyda'r prosiect arloesol hwn.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Beth yw’r sefyllfa bresennol yng nghyllideb 2010/11 o ran y Cynllun Achub Morgeisi. (WAQ55203) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Dai

Rhoddwyd ateb ar 21 Rhagfyr 2009

Y Dirprwy Weinidog dros Dai (Jocelyn Davies): Rwyf yn archwilio nifer o opsiynau i sicrhau y bydd cyllid ar gael ar gyfer y Cynllun Achub Morgeisi yn 2010/11.  Byddaf yn rhoi gwybod i chi yn ysgrifenedig unwaith y caiff y swm ei gadarnhau.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o sut y defnyddir y £26 miliwn o gyllid Haen 2 y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol ar gyfer y 'Rhaglen Adeiladu Carbon Isel Cymru Gyfan’. (WAQ55207)

Rhoddwyd ateb ar 8 Rhagfyr 2009

Mae'r £26 miliwn o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol Tranche 2 a ddyrannwyd ar gyfer 'Rhaglen Adeiladu Carbon Isel Cymru Gyfan' wedi'u rhannu rhwng y gweithgareddau canlynol:

• Amnewid boeleri nwy aneffeithlon £2.93 miliwn

• Peilot Pwmp Gwres o'r Awyr £67,000

• Prosiect tŷ cyfan unigol £3 miliwn

• Prosiect tŷ cyfan cymunedol Arbed £20 miliwn

Rydym wedi datblygu'r rhaglen Arbed i wella perfformiad ynni cartrefi mewn cymunedau ledled Cymru. Bydd buddsoddiad o dan y rhaglen yn canolbwyntio ar gartrefi incwm isel a chartrefi sy'n profi tlodi tanwydd yn yr Ardaloedd Adfywio Strategol ledled Cymru.  Drwy fabwysiadu rhaglen sy'n seiliedig ar ardal gallwn gynnig arbedion effeithlonrwydd mawr a chyfleoedd i ymgysylltu â deiliaid tai ar draws y gymuned, gan gynnwys y rheini na fyddent o bosibl yn ceisio help.

Rydym yn disgwyl y gallai rhwng 12,000 a 15,000 o gartrefi gael pecynnau gwella perfformiad ynni fel rhan o'r rhaglenni hyn sy'n seiliedig ar ardaloedd. Gallai hyn ostwng biliau ynni blynyddol cartrefi rhwng £6.1m a £7.4m a lleihau gollyngiadau nwy tŷ gwydr blynyddol rhwng 33,500 a 40,000 o dunelli.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Beth yw cyfanswm cost y prosiect i gyflenwi 400+ o dai fforddiadwy ledled Cymru, y mae £42 miliwn wedi’i neilltuo ar ei gyfer dan Haen 2 proses y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol.  (WAQ55208) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Dai

Rhoddwyd ateb ar 21 Rhagfyr 2009

Jocelyn Davies: Dyrannwyd y £42 miliwn o dan Gyfran 1 o broses y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol. Amcangyfrifir mai tua £72 miliwn yw cyfanswm cost y prosiect.  Rhagwelir y bydd hyn yn darparu dros 500 o dai fforddiadwy ledled Cymru a fydd yn cynnwys amrediad o fathau o eiddo, o dai gyda rhwng dwy a phedair ystafell wely i fflatiau gydag un neu ddwy ystafell wely.  Bydd y prosiect yn parhau am dair blynedd ac ni fydd costau terfynol ar gael tan 2010/2011.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Beth yw cyfanswm cost pob un tŷ yn y prosiect i gyflenwi 400+ o dai fforddiadwy ledled Cymru, y mae £42 miliwn wedi’i neilltuo ar ei gyfer dan Haen 2 proses y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol.  (WAQ55209) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Dai

Rhoddwyd ateb ar 21 Rhagfyr 2009

Jocelyn Davies: Dyrannwyd y £42 miliwn o dan Gyfran 1 o broses y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol. Ariennir y prosiect dros dair blynedd ac ni fydd y costau terfynol ar gael nes i'r prosiect ddod i ben yn 2010/11.  Yn 2008/2009 ariannwyd cyfanswm o 205 o adeiladau ledled Cymru a oedd yn cynnwys amrediad o fathau o eiddo, o dai gyda rhwng dwy a phedair ystafell wely i fflatiau gydag un neu ddwy ystafell wely.  Y gost gyfartalog fesul eiddo oedd £131,900, a'r grant cyfartalog fesul eiddo oedd £76,500.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad o sut y gwarir y £20 miliwn o gyllid a neilltuwyd ar gyfer y Pecyn Cymorth Tai a Thai Fforddiadwy dan Haen 2 proses y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol.  (WAQ55211) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Dai

Rhoddwyd ateb ar 10 Rhagfyr 2009

Jocelyn Davies: Ar hyn o bryd, nid oes dim o'r £20 miliwn sydd ar gael yng Nghyfran 2 y Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Strategol wedi'i ddyrannu. Hysbyswyd awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig at ba ddibenion y gellir ei ddefnyddio. Gofynnir i awdurdodau lleol gyflwyno datganiadau o ddiddordeb ar ôl iddynt gael canllawiau pellach, a gyhoeddir cyn diwedd Rhagfyr 2009.  

Rwy'n rhagweld y caiff awdurdodau lleol ddyraniad tybiannol o'r arian ychwanegol ar ffurf Grant Tai Cymdeithasol yn barod i ddechrau ar y gwaith, neu er mwyn caffael safleoedd, o fis Ebrill 2010. Bydd y gwariant, a fydd yn gorfod cael ei wneud yn y flwyddyn ariannol nesaf 2010-2011, yn rhoi hwb angenrheidiol pellach i'r diwydiant adeiladu a'r ddarpariaeth o dai fforddiadwy yn fwy cyffredinol.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint sy’n cael ei wario ar hyn o bryd ar dechnoleg arbenigol, megis lifftiau grisiau, ar gyfer y rheini sy'n dioddef cyflwr niwrolegol megis Clefyd Niwronau Motor. (WAQ55200)

Rhoddwyd ateb ar 10 Chwefror 2010

Nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn casglu'r wybodaeth hon.

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint sy’n cael ei wario ar hyn o bryd ar ymdrechion ymchwil i Glefyd Niwronau Motor yng Nghymru. (WAQ55201)

Rhoddwyd ateb ar 10 Chwefror 2010

Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw waith ymchwil penodol ar Glefyd Niwronau Motor a gynhelir yng Nghymru. Fodd bynnag, yn sgil y ffaith bod Swyddfa Cymru ar gyfer Ymchwil a Datblygu (WORD) yn ariannu Rhwydwaith Ymchwil Demensia a Chlefydau Niwroddirywiol Cymru Gyfan (NEURODEM), sef tua £612,000 ar hyn o bryd, mae gweithgarwch parhaus yn mynd rhagddo i annog ymchwilwyr yng Nghymru i ymchwilio i'r clefyd hwn.

Drwy gynllun cyllido ymchwil blynyddol agored a chystadleuol a gynhelir gan WORD, ceir cyfle hefyd i ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn Clefyd Niwronau Motor i wneud cais i'r cynllun hwn.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr amser y mae’n rhaid i gleifion ddisgwyl cyn dechrau therapi lleferydd ar ôl dioddef strôc yng Nghymru ac ym Mhowys. (WAQ55202)

Rhoddwyd ateb ar 8 Rhagfyr 2009

Ni chaiff gwybodaeth am amseroedd aros ar gyfer therapi iaith a lleferydd i bobl sydd wedi cael strôc ei chadw'n ganolog. Dylai pob claf strôc gael asesiad o'i anghenion adsefydlu acíwt a hirdymor er mwyn llunio cynllun rheoli gofal wedi'i deilwra i ddiwallu ei anghenion unigol, a dylai unrhyw therapi iaith a lleferydd ddechrau yn unol â'r cynllun hwnnw.

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa sefydliadau fydd yn cael gwahoddiad i ffurfio rhan o’r grŵp gorchwyl a gorffen newydd a fydd yn adolygu’r canllawiau presennol ar drwyddedu canolfannau bridio cŵn.  (WAQ55204)

Rhoddwyd ateb ar 4 Rhagfyr 2009

Rydym yn chwilio am gynrychiolwyr o awdurdodau lleol, y Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd, y trydydd sector, ymddygiadwyr anifeiliaid, y proffesiwn milfeddygol, DEFRA a Gweithrediaeth yr Alban a rhai pobl leyg briodol eraill.

Gofyn i Gynrychiolydd Comisiwn y Cynulliad

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa asesiad sydd wedi’i wneud o’r ddarpariaeth ar gyfer rheseli beiciau dan do ar gyfer ymwelwyr i’r Senedd. (WAQ55206)

Rhoddwyd ateb ar 3 Rhagfyr 2009

Comisiynydd y Cynulliad dros y Cynulliad Cynaliadwy, Lorraine Barrett AC: Mae rac beiciau ar gyfer ymwelwyr yn union y tu allan i ganopi’r Senedd, er nad yw o dan do yn hollol, ac mae raciau beiciau awyr agored ychwanegol ar gael y tu allan i fynedfa Tŷ Hywel.

Rydym wedi ystyried ymarferoldeb darparu rac beiciau o dan y rhodfa dan do ar Stryd Pierhead ond mae pryderon yn ymwneud â diogelwch creu ardal raciau beiciau yn union gerllaw’r Senedd.  Mae diogeledd a diogelwch ein hystâd a’r bobl sy’n gweithio yma ac yn ymweld â’r lle o’r pwys mwyaf i ni, a’n nod yw cynnal amgylchedd diogel bob amser.

Dengys ein hasesiad felly bod cwmpas cyfyngedig i ddarparu cyfleusterau dan do ar hyn o bryd ond byddwn yn parhau i adolygu ein darpariaeth yn unol â’n cyfrifoldeb ehangach i annog dulliau teithio cynaliadwy ac er cysur a diogelwch ein hymwelwyr.