Atebion a roddwyd i Aelodau ar 4 Mehefin 2008
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Janet Ryder (Gogledd Cymru): A all y Gweinidog roi manylion nifer yr Athrawon Plant Byddar cymwysedig a gyflogir ym mhob Awdurdod Addysg Lleol ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf y cofnodwyd ffigurau ar ei chyfer? (WAQ51812)
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt):
Caiff
y wybodaeth ddiweddaraf a mwyaf cadarn am athrawon plant byddar ei chadw gan
Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru a ddywedodd fod 108 o athrawon cymwysedig ar gyfer plant byddar yng Nghymru wedi'u cofrestru ag ef ar 2 Mehefin 2008. Mae nifer
yr athrawon sydd ym mhob awdurdod addysg lleol (AALl) fel a ganlyn:
Enw'r AALl |
Cyfanswm |
Gwynedd |
1 |
Ynys Môn |
3 |
Conwy |
2 |
Sir Ddinbych |
1 |
Sir y Fflint |
7 |
Wrecsam |
5 |
Powys |
7 |
Ceredigion |
1 |
Sir Benfro |
2 |
Sir Gaerfyrddin |
1 |
Abertawe |
7 |
Castell-nedd Port Talbot |
7 |
Pen-y-bont ar Ogwr |
3 |
Bro Morgannwg |
4 |
Rhondda Cynon Taf |
9 |
Merthyr |
5 |
Caerffili |
5 |
Blaenau Gwent |
0 |
Tor-faen |
10 |
Sir Fynwy |
0 |
Casnewydd |
0 |
Caerdydd |
15 |
Athrawon Cyflenwi |
11 |
Athrawon wedi ymddeol |
1 |
Unigolion nad ydynt yn cael eu cyflogi fel athrawon ond sy'n gweithio ym maes addysg. |
1 |
108 |
Yn fwy cyffredinol, yn 2003 a 2004, cynhaliodd Llywodraeth Cynulliad Cymru archwiliadau o'r ddarpariaeth addysgol ar gyfer y rhai â nam ar y clyw, nam ar y golwg a nam amlsynnwyr (byddar a dall). Awgrymodd canlyniadau'r archwiliad fod anghysondeb ledled Cymru o ran polisïau ymyrryd a'r cymorth sydd ar gael i blant a phobl ifanc â namau ar y synhwyrau.
O ganlyniad, yn 2005, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru safonau ansawdd mewn perthynas â gwasanaethau addysgol ar gyfer plant a phobl ifanc â nam ar y clyw, nam ar y golwg neu nam amlsynnwyr. Cafodd y safonau hyn eu datblygu'n benodol i helpu i sefydlu dull gweithredu cyson. Caiff y safonau eu defnyddio fel meincnodau y gellir gwerthuso'r gwasanaethau a ddarperir yn eu herbyn.
Mae'r safonau ansawdd wedi'u cymeradwyo gan Estyn, a hynny'n arbennig fel adnodd hunanwerthuso i'w ddefnyddio gan AALlau. Bwriedir cynnal gwerthusiad allanol o'r defnydd a wneir o'r safonau yn ystod 2009-10.
Yn ogystal, o ganlyniad i'r archwiliad, daethom i wybod y byddai cyfran fawr o athrawon a oedd yn meddu ar y cymhwyster gorfodol ar gyfer addysgu disgyblion â nam ar y synhwyrau ar y pryd yn cyrraedd oedran ymddeol o fewn y deng mlynedd nesaf - felly'r angen i hyfforddi athrawon ychwanegol i ddiwallu anghenion y disgyblion. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru, Casnewydd i sicrhau bod cyrsiau cymwysterau gorfodol newydd ar gael i athrawon sy'n gweithio gyda'r rhai â nam ar y clyw a'r rhai â nam ar y golwg. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi clustnodi cyfanswm o £192,000 ar gyfer y tair blynedd academaidd a oedd yn dechrau ym mis Medi 2006.
Rydym yn arbennig o falch i'r cwrs cymhwyster gorfodol ar gyfer nam ar y clyw gael ei ddatblygu gan gydweithio â'r Mary Hare Foundation yn Berkshire, sy'n Ysgol Ramadeg fyd-enwog ac yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer plant a phobl ifanc â nam ar y clyw.
Dechreuodd y cyrsiau hyn ym mis Medi 2006 a chofrestrodd 24 o athrawon i ddilyn y cyrsiau Diploma i Ôl-raddedigion - 12 ar gyfer y cwrs nam ar y clyw a 12 ar gyfer y cwrs nam ar y golwg.