04/10/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 27 Medi 2013 i’w hateb ar 4 Hydref 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at WAQ62338, a wnaiff y Gweinidog roi’r ‘cynnydd net’ neu’r ‘golled net’ mewn swyddi ers ei chreu ym mis Medi 2011, gan ddarparu nifer y swyddi fesul cwmni ac enwau'r cwmnïau o dan sylw? (WAQ65583)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae’n eu cymryd i sicrhau diogelwch diffoddwyr tân? (WAQ65580)

Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae’n eu cymryd i sicrhau bod safon ffitrwydd pob diffoddwr tân yn dderbyniol? (WAQ65581)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i gyflwyno gofyniad ffurfiol bod awdurdodau lleol yn cadw cofnod y gall y cyhoedd ei weld o’r holl geisiadau rhyddid gwybodaeth sydd wedi cael eu cyhoeddi?   (WAQ65582)