05/07/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 5 Gorffennaf 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 5 Gorffennaf 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.CynnwysCwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau CymdeithasolCwestiynau i’r Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint oedd GIG Cymru wedi’i wario dros yr 8 blwyddyn ariannol diwethaf ar wasanaethau ymgynghori gan sefydliadau allanol ac a wnaiff y Gweinidog roi dadansoddiad fesul ymddiriedolaeth GIG? (WAQ50096)Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Mae gwariant ar 'gyfanswm staffio ymgynghori ac ymgynghori allanol’ wedi’i gynnwys yn ffurflen ariannol pob un o Ymddiriedolaethau’r GIG a gyflwynwyd gyda’u cyfrifon blynyddol ac mae darnau wedi’u nodi isod.
Atebion a roddwyd i Aelodau ar 5 Gorffennaf 2007
Blwyddyn ariannol £000
2005-06 9,066
2004-05 8,379
2003-04 5,936
2002-03 5,072
2001-02 2,440
2000-01 1,971
1999-2000 1,751
Daw’r wybodaeth hon o’r ffurflenni ariannol a gyflwynwyd gyda’r cyfrifon a archwiliwyd. Nid yw cyfrifon 2006-07 a archwiliwyd ar gael ar hyn o bryd. Ceir manylion am y dadansoddiad o’r gwariant hwn yn ôl Ymddiriedolaeth GIG Cymru yn y rhestr atodedig.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithredu’r gwaharddiad ar ysmygu gyda golwg ar unedau iechyd meddwl cleifion mewnol? (WAQ50116)

Edwina Hart: Mae Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007 a ddaeth i rym yng Nghymru ddydd Llun 2 Ebrill 2007 yn gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeedig neu sylweddol gaeedig, gan gynnwys gweithleoedd.

Dim ond ychydig eithriadau i’r gyfraith sydd wedi’u caniatáu, yn bennaf i gwmpasu gweithleoedd sydd hefyd yn fan preswyl i berson. Ymhlith y rhain mae unedau iechyd meddwl sy’n darparu llety preswyl. O fewn y rheoliadau, golyga 'uned iechyd meddwl’ unrhyw sefydliad (neu ran o sefydliad) a gynhelir yn llwyr neu’n bennaf ar gyfer derbyn a thrin pobl sy’n dioddef gan unrhyw fath o anhwylder meddwl fel y’i diffinnir yn adran 1(2) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

Gall unedau iechyd meddwl sy’n darparu llety preswyl gael 'ystafelloedd dynodedig’ lle caniateir ysmygu.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Yn dilyn yr ateb i WAQ50061, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau a ymgynghorwyd â phob un o’r 22 awdurdod lleol er mwyn cael y ffigurau diweddaraf cyn llunio’r ateb a roddwyd? (WAQ50155)

Edwina Hart: Mae’r wybodaeth a roddwyd yn yr ateb yn cynnwys y ffigurau cyflawn diweddaraf, wedi’u gwirio a’u dilysu, sydd gennym. Fe’i cymerwyd o ffurflenni ystadegol rheolaidd gan awdurdodau lleol. Roedd yr ateb yn diffinio’r wybodaeth a oedd yn cael ei rhoi ac roedd yn cynnwys amodau pwysig.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o lythyrau yn mynegi cwyn, pryder neu wrthwynebiad y mae adran y Gweinidog wedi’u derbyn gan a) Meddygon teulu neu nyrsys practis a b) Cleifion ledled Cymru ynghylch y system apwyntiadau ar yr un diwrnod? (WAQ50157)

Edwina Hart: Gweithredwyd ein hymrwymiad i allu gweld aelod o dîm gofal sylfaenol o fewn 24 awr ym mis Hydref 2003. Ers y dyddiad hwnnw nid ydym wedi cael unrhyw lythyrau cwyno gan feddygon teulu neu nyrsys practis a chawsom 36 o gwynion gan gleifion yn ymwneud â gweld rhywun o fewn 24 awr.

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa gamau y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi’u cymryd i sicrhau y caiff y camau sy’n ymwneud â’r cyfnod pontio ar gyfer pobl ifanc anabl a’u teuluoedd, yn y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth, eu rhoi ar waith? (WAQ50172)

Edwina Hart: Y bwriad y tu ôl i’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yw grymuso Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc i bennu eu blaenoriaethau yn lleol er mwyn datblygu a gweithredu Camau Gweithredu Allweddol y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol yn ystod cyfnod y strategaeth 10 mlynedd. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhoi Offeryn Archwilio Hunan-asesu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar waith, i’w defnyddio gan bob asiantaeth statudol sy’n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc, ac wedi cyflogi Rheolwr Gweithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i helpu Partneriaethau i weithredu hyn. Mae Partneriaethau Plant a Phobl Ifanc yn gyfrifol am gydgysylltu data pob asiantaeth statudol; hwyluso’r broses o bennu blaenoriaethau lleol; mesur y cynnydd a wneir o ran y broses weithredu a nodi cryfderau, rhwystrau a meysydd i’w datblygu ymhellach.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog roi adroddiad cynnydd am unrhyw gamau i drosglwyddo’r cyfrifoldeb dros garthffosydd preifat i gwmnïau dŵr a charthfosiaeth statudol? (WAQ50109)Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig (Jane Davidson): Ar 22 Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru benderfyniad 'mewn egwyddor’ i drosglwyddo carthffosydd preifat a draeniau ochrol i berchenogaeth cwmnïau carthffosiaeth. Mae’r penderfyniad hwn yn nodi’r cam diweddaraf mewn adolygiad hirsefydlog sydd wedi cael ei gynnal gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Bwriedir cynnal cyd-ymgynghoriad cyhoeddus pellach yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar sut y dylid gweithredu’r broses drosglwyddo a phryd: cadarnhaodd cyhoeddiad Llywodraeth Cynulliad Cymru y bydd lleihau’r baich ychwanegol ar gostau carthffosiaeth yn flaenoriaeth wrth ystyried y ffordd orau o weithredu’r broses. Caiff yr ymgynghoriad ei ddefnyddio hefyd i archwilio ffyrdd o atal twf o ran carthffosydd preifat newydd, er mwyn sicrhau nad yw’r problemau yn codi eto.Janet Ryder (Gogledd Cymru): Sut mae’r Gweinidog yn bwriadu mapio effaith dŵr ffo nitrad ar dir wrth ymyl tir sy’n cael ei drin? (WAQ50111)Jane Davidson: Mae Cyfarwyddeb Nitradau (91/676/EC) yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-Wladwriaethau, gan gynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru, nodi dyfroedd yr effeithir arnynt gan lygredd nitradau o ffynonellau amaethyddol a dyfroedd y gellid effeithio arnynt os na chymerir camau. Mae’r Gyfarwyddeb yn nodi’r meini prawf i’w defnyddio. Rhaid dynodi pob ardal hysbys o dir sy’n gollwng/draenio i’r dŵr a nodir ac sy’n cyfrannu at lygredd yn Barthau Perygl Nitradau. Yn ôl y Gyfarwyddeb, mae’n rhaid i’r holl dir o fewn y Parthau fod yn destun mesurau Rhaglen Weithredu a allai gynnwys, er enghraifft, cyfyngiadau ar faint o wrtaith a roddir ar y tir. O dan y Gyfarwyddeb, dylid adolygu’r Parthau a’r Rhaglenni Gweithredu bob pedair blynedd. Cynhelir adolygiad ar hyn o bryd ac rydym yn bwriadu cyhoeddi cynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer ymgynghori yn fuan, gan gynnwys mapiau yn nodi cwmpas Parthau Perygl Nitradau sydd eisoes yn bodoli a rhai arfaethedig yng Nghymru.Janet Ryder (Gogledd Cymru): Sut mae’r Gweinidog yn bwriadu pennu Coetiroedd Hynafol yng Nghymru? (WAQ50112)Jane Davidson: Mae Safon Sicrwydd Coetir y DU (UKWAS Tach 2006 2il argraffiad) yn nodi y cyfeirir at goetir fel coetir hynafol pan mae wedi bodoli’n barhaus ers cyn 1600 AD er bod pob un o’r safleoedd hyn wedi cael eu rheoli i ryw raddau cyn ac ar ôl y dyddiad hwnnw. Caiff coetiroedd o’r fath eu nodi dros dro yn y Rhestr o Goetiroedd Hynafol. Mae’r Rhestr o Goetiroedd Hynafol dros dro ar gyfer Cymru yn cynnwys cyfres o fapiau a chronfa ddata sy’n nodi’r coedwigoedd hynny sy’n debygol, oherwydd eu parhad yn y dirwedd, o fod yn fwy amrywiol ac o gynnwys nodweddion arbennig. Nid 'hynafrwydd’ ynddo’i hun yw’r ffactor allweddol, ond dengys tystiolaeth ei fod yn debygol iawn o nodi gwerth ecolegol. Fel arfer, caiff lleoliad coetir hynafol ei gadarnhau drwy fapiau mor agos i drothwy 1600 â phosibl, wedi’u hatgyfnerthu gan bresenoldeb 'rhywogaeth ddangosol’ coetir hynafol a phresenoldeb nodweddion hanesyddol neu archeolegol, er na ellir cael tystiolaeth bendant o 'hynafrwydd’ bob tro.Gelwir y rhestr yn Rhestr o Goetiroedd Hynafol dros dro oherwydd mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru wrthi o hyd yn mynd i’r afael â 'gwallau’ a gwelliannau. Coladwyd y Rhestr o Goetiroedd Hynafol dros dro rhwng 1981 a 1990 ac er y cydnabyddir na ellir ei gweld fel rhestr ddiffiniol heb arolwg maes llawn, dyma’r canllaw gorau o hyd i leoliadau coetir hynafol yng Nghymru.Mae’n dangos bod pob coetir dros drothwy o 2 hectar yn perthyn i dri chategori: Coetir Lled-Naturiol Hynafol, Coetir Hynafol a Ailblannwyd, a safleoedd Coetir Hynafol a Gliriwyd. Mabwysiadodd y rhai a goladodd y rhestr leiafswm maint o 2 hectar, fel na chaiff coetiroedd a allai fod o darddiad hynafol ond sy’n llai na hyn eu cofnodi, er y gallent ddangos nodweddion o goetir hynafol. Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wrthi’n gwneud gwaith pellach i nodi’r rhai y gallai fod ganddynt nodweddion yr un mor bwysig, ond nad oeddent wedi’u cynnwys yn yr ymarfer mapio gwreiddiol. Cwblhawyd arolwg o’r coetir hynafol ar ystâd coetir y Cynulliad a reolir gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ym mis Mawrth 2004. Y tu allan i ystâd y Cynulliad, mae’r Rhestr o Goetiroedd Hynafol dros dro yn fan cychwynnol ar gyfer nodi coetiroedd hynafol pa bryd bynnag y derbynnir ceisiadau ar gyfer trwyddedau torri coed neu gymorth grant. Mae safleoedd sy’n llai na 2 hectar ac felly nad ydynt ar y rhestr ond sydd â nodweddion coetiroedd hynafol yn cael yr un gefnogaeth â’r rheini sydd ar y rhestr. Mae fersiwn digidol o’r Rhestr o Goetiroedd Hynafol dros dro ar gael i’r cyhoedd drwy’r porwr ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth yn http://www.forestry.gov.uk/forestry/infd-5zzpcp. Dyma’r Chwiliad Gwybodaeth am Dir ac mae’n fap ar-lein sy’n hawdd i’w ddefnyddio ar gyfer chwilio am wybodaeth am ddynodiadau neu nodweddion ardal benodol o dir.