Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 28 Medi 2010 i’w hateb ar 05 Hydref 2010
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith y Fforwm Rhyng-ffydd. (WAQ56532)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Gweinidog ddatganiad pa mor hir ar gyfartaledd y mae'n ei gymryd i Weinidog gymeradwyo cais am gyfarfod gydag Aelod Cynulliad, gan ddarparu'r amser ymateb cyfartalog ar gyfer pob Gweinidog. (WAQ56533)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw Gweinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cwrdd â rheolwyr archfarchnadoedd mawr i drafod materion sy'n berthnasol i Gymru, ac os nad, pam na chaiff cyfarfodydd o'r fath eu cynnal. (WAQ56550)
Nick Ramsay (Mynwy): Sawl aelod o staff sydd wedi derbyn diswyddiad gwirfoddol er 1af Ionawr 2009, a beth oedd y gost gyfartalog fesul gweithiwr. (WAQ56553)
Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
Nick Ramsay (Mynwy): Ar gyfer pob blwyddyn er 1999, beth oedd y cyfanswm a gafodd ei wario ar swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru y tu allan i Gymru ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion ar gyfer swyddfeydd unigol. (WAQ56554)
Nick Ramsay (Mynwy): Beth oedd cyfanswm y gwariant ar gerbydau Gweinidogion, wedi'i rannu rhwng cyfalaf a refeniw, ar gyfer pob blwyddyn er 1999. (WAQ56555)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu (a) faint o arian gafodd ei wario ar y Rhaglen Adeiladu Sgiliau, (b) nifer y bobl ifanc 16-18 oed sydd wedi cofrestru ar y rhaglen, ac (c) nifer y rheini a gofrestrodd sydd wedi dod o hyd i gyflogaeth amser llawn. (WAQ56566)
Nick Ramsay (Mynwy): Ar gyfer pob blwyddyn er 1999, beth oedd cyfanswm y gwariant ar (i) grant gwella adeiladau ysgolion, (ii) cyfalaf ysgolion Gwirfoddol a gynorthwyir, (iii) cyfalaf Blynyddoedd Cynnar a (iv) cyllid cyfalaf cyffredinol. (WAQ56567)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddarparu gwybodaeth ychwanegol ac esboniad pellach, gan gynnwys gwariant cymharol, yng nghyswllt ei sylw yn y Western Mail ar 9fed Medi bod y Llywodraeth hon wedi gwario mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus nag ar ffyrdd am y tro cyntaf erioed. (WAQ56529)
Brian Gibbons (Aberafan): Ac ystyried FOI Bus 6 (Mehefin 22 2010) - Cyf 4228 - a wnaiff y Gweinidog restru'r cwmnïau nad ydynt yn fusnesau bach a chanolig sydd wedi cael cymorth gan y llywodraeth dros yr un cyfnod a faint o swyddi gafodd eu haddo a'u cyflawni. (WAQ53530)
Brian Gibbons (Aberafan): Ac ystyried FOI Bus 6 (Mehefin 22 2010) - Cyf 4228 - a wnaiff y Gweinidog ddarparu'r nifer rhagamcanol o swyddi yr oedd y prosiectau hyn yn eu haddo a nifer y swyddi roeddent wedi'u cyflawni mewn gwirionedd. (WAQ56531)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i amddiffyn adwerthwyr bach annibynnol yng Nghymru. (WAQ56539)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwaith ffordd ar yr A470 i'r de o Lanfair-ym-Muallt. (WAQ56540)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A oes unrhyw asesiad wedi cael ei wneud o effaith agor archfarchnadoedd mewn trefi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru ar economi'r ardal. (WAQ56546)
Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatgan am nifer y tocynnau Cwpan Ryder am ddim (gan gynnwys gwahoddiadau i ddigwyddiadau lletygarwch) a ddyrannwyd i Lywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ56556)
Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog restru'r bobl/sefydliadau a gafodd docynnau Cwpan Ryder am ddim (gan gynnwys gwahoddiadau i'r holl ddigwyddiadau lletygarwch dros gyfnod y digwyddiad) gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ56557)
Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion canfyddiadau'r archwiliad mewnol i redeg Adran yr Economi a Thrafnidiaeth. (WAQ56563)
Nick Ramsay (Mynwy): Beth yw amcan nifer y swyddi a grëwyd yng Nghymru gan gwmnïau tramor ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ56564)
Nick Ramsay (Mynwy): Faint o arian y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i ddarparu i gwmnïau tramor mewn cymorth grant ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ56565)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A oes unrhyw asesiad wedi cael ei wneud o effaith bosibl agor archfarchnadoedd mewn trefi yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru ar economi'r ardal. (WAQ56547)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi'r cylch gorchwyl gwreiddiol sy'n sail i'r gwaith a wnaethpwyd gan Ymgynghorwyr Rheoli McKinsey ar ran y GIG yng Nghymru yn ystod 2009/10. (WAQ56527)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddarparu datganiad am ddarparu gwasanaethau Anhwylder Straen Wedi Trawma arbenigol ar gyfer cyn filwyr/staff y gwasanaethau brys yng Nghanolbarth Cymru. (WAQ56528)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Ysbytai Cyffredinol Dosbarth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. (WAQ56541)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnig i ganoli gwasanaethau mewn unrhyw Ysbytai Cyffredinol Dosbarth yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. (WAQ56542)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Ysbytai Cymunedol yng Nghymru. (WAQ56543)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw gwerth y cyffuriau presgripsiwn sy'n cael eu dychwelyd i (a) fferyllwyr, a (b) meddygon yng Nghymru yn y flwyddyn olaf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer. (WAQ56544)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â gwastraff cyffuriau presgripsiwn nad ydynt yn cael eu defnyddio yng Nghymru. (WAQ56545)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A all y Gweinidog gadarnhau a yw pob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru nawr yn cynnig yr ail gylch o driniaeth IVF i bob teulu y mae ei hangen arnynt. (WAQ56552)
Nick Ramsay (Mynwy): Faint o gwynion a gafodd Adran y Gweinidog gan bersonél y lluoedd arfog a'u teuluoedd ynghylch triniaeth feddygol personél y lluoedd arfog yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. (WAQ56558)
Nick Ramsay (Mynwy): Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i wella gofal cleifion drwy ddefnyddio synwyryddion ocsifesurydd pwls cywir. (WAQ56559)
Nick Ramsay (Mynwy): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i hwyluso tynnu ocsifesuryddion pwls nad ydynt yn gweithio o'r amgylchedd clinigol. (WAQ56560)
Nick Ramsay (Mynwy): Faint o ysbytai yng Nghymru sydd â sbectromedrau micro Lightman. (WAQ56561)
Nick Ramsay (Mynwy): Pa ganran o'r cadeiriau olwyn a ddarperir gan y Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar sydd (a) yn cael eu casglu yn brydlon, (b) yn cael eu danfon yn brydlon, (c) yn cael eu trwsio yn brydlon, a (d) yn cael eu danfon cyn pen 21 ar ôl cyfeirio. (WAQ56562)
Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth seiclo yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. (WAQ56535)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth cerdded yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. (WAQ56536)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd cwrw a gwin Cymreig mewn perthynas â thwristiaeth. (WAQ56537)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd tafarndai yng Nghymru perthynas â thwristiaeth. (WAQ56538)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog a'i swyddogion wedi'u cynnal â sefydliadau mawr yng Nghymru i hyrwyddo defnyddio'r Gymraeg. (WAQ56549)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i gyhoeddi datganiad ynghylch TB mewn Gwartheg. (WAQ56548)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Er 2007, pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'u cymryd i leihau troseddau casineb yng Nghymru a pha flaenoriaeth a gaiff y mater hwn ar gyfer gweddill y Trydydd Cynulliad. (WAQ56551)
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yn y contract gyda maes parcio aml-lawr APCOA a yw'n wir ei bod yn rhaid i Gomisiwn y Cynulliad dalu am ddiwrnod llawn o barcio ar gyfer ceir holl weithwyr y Cynulliad sy'n dod i'r maes parcio ni waeth pa mor hir byddant yn aros. (WAQ56534)