Atebion a roddwyd i Aelodau ar 7 Mai 2008
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Cwestiynau i’r Prif Weinidog
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa Weinidog fydd yn mynd i Gemau Olympaidd Beijing 2008? (WAQ51659)
Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Dim un, ac nid oes cynnig erioed wedi cael ei ystyried i Weinidog fod yn bresennol yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd yng nghyswllt trosglwyddo carthfosydd a draeniau ochrol preifat i berchnogaeth cwmnïau dŵr a charthffosiaeth cyhoeddus? (WAQ51663)
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Ar 25 Gorffennaf 2007 cyhoeddais fy mod wedi cymryd y cam nesaf tuag at drosglwyddo carthffosydd preifat i berchenogaeth ymgymerwyr carthffosiaeth Cymru drwy gyhoeddi papur ymgynghori perthynol. Roedd papur ymgynghori ar y cyd Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn ceisio sylwadau ar sut i ddatblygu’r polisi hwn, gan gynnwys a ddylid trosglwyddo carthffosydd preifat i ymgymerwyr carthffosiaeth fesul cam. Roedd hefyd yn edrych ar opsiynau i leihau nifer y carthffosydd preifat newydd, er mwyn osgoi ailadrodd y problemau hyn yn y dyfodol.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 19 Hydref 2007 a chyhoeddwyd crynodeb ar y cyd o ymatebion yn gynharach eleni. Mae’r ymatebion yn parhau i gael eu hystyried cyn i mi a’m Gweinidog cyfatebol yn Lloegr benderfynu ar y ffordd orau o weithredu.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyllido undebau credyd? (WAQ51660)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cymryd i gynyddu’r cyllid sydd ar gael i Undebau Credyd? (WAQ51662)
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Ers 2000 rydym wedi buddsoddi £1.75 miliwn mewn datblygu undebau credyd cynaliadwy a chryf ac wedi addo £1.25 miliwn yn rhagor i ymrwymiadau Cymru’n Un ar gyfer gwella cymorth undebau credyd; sicrhau eu bod ar gael i ddisgyblion uwchradd a darparu cyfrifon cronfa ymddiriedolaeth plant.
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cymryd i annog rhagor o gynilwyr i ddefnyddio undebau credyd? (WAQ51661)
Brian Gibbons: Ers i ni ddechrau buddsoddi mewn undebau credyd yn 2000, mae aelodaeth undebau credyd wedi tyfu bedair gwaith drosodd; bellach mae tua 34,000 o bobl yn aelodau. Bydd ein cefnogaeth barhaus yn cynyddu cynaliadwyedd ac yn galluogi undebau credyd i gynnig amrywiaeth ehangach o gynnyrch, fel Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant, a fydd yn annog mwy o bobl i ymaelodi.