07/05/2009 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 29 Ebrill 2009 i’w hateb ar 7 Mai 2009

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

David Melding (Canol De Cymru): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwneud unrhyw asesiad o effaith diwygio’r strwythur ffioedd ar gyfer bargyfreithwyr iau mewn achosion Cyfraith Teulu ar wasanaethau ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal a phlant eraill agored i niwed. (WAQ54054)

Sandy Mewies (Delyn): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dod o hyd i fecanweithiau er mwyn monitro a gwerthuso gweithredu’r cyfarwyddebau a osodwyd allan yn y cyfarwyddebau datblygu a chomisiynu gwasanaethau ar gyfer cyflyrau anadlol cronig. (WAQ54055)

Sandy Mewies (Delyn): Beth mae’r Gweinidog wedi’i wneud i sicrhau bod ymatebion i achosion anadlol brys yn gwella. (WAQ54056)

Sandy Mewies (Delyn): A yw comisiynwyr BILl yn defnyddio darpariaethau’r Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol i helpu i sicrhau y cyflawnir cynifer â phosibl o’r dangosyddion ansawdd ar gyfer asthma.(WAQ54057)

Sandy Mewies (Delyn): A yw meddyginiaethau sy’n cael eu rhoi ar bresgripsiwn ar gyfer cyflyfrau anadlol cronig gan feddygon teulu a thimau amlddisgyblaeth yn cael eu hadolygu a’u monitro o fewn canllawiau cenedlaethol. (WAQ54057)

Sandy Mewies (Delyn): Mae cyflyrau anadlol cronig yn pennu erbyn mis Medi 2008 bydd gan gleifion â chyflyrau anadlol cronig, gan gynnwys asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, gynlluniau gofal unigol ar waith. Beth yw’r cynnydd gyda hyn. (WAQ54058)

Sandy Mewies (Delyn): Faint o BILlau sydd â gwybodaeth a chefnogaeth briodol am gyflyrau anadlol cronig sy’n cyfeirio at wasanaethau a ddarperir gan y sector gwirfoddol a grwpiau hunangymorth lleol wedi’u harwain gan y defnyddwyr fel y pennir yn y cyfarwyddebau datblygu a chomisiynu gwasanaethau. (WAQ54059)

Sandy Mewies (Delyn): Erbyn mis Medi 2008 dylai BILlau, GICC, Ymddiriedolaethau’r GIG, Gwasanaethau Cymdeithasol a’r sector gwirfoddol fod â mesurau sylfaenol ac eilradd priodol ac ar sail tystiolaeth ar gyfer cyflyrau anadlol cronig. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wneud i’r perwyl hwn. (WAQ54060)

Sandy Mewies (Delyn): Mae cyflyrau anadlol cronig yn pennu erbyn mis Ebrill 2008 bydd offer achub bywyd hanfodol a chyfleusterau diagnostig syml ar gyfer argyfyngau anadlol ar gael mewn cyfleusterau brys ac wedi’u cefnogi gan hyfforddiant. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf. (WAQ54061)

Sandy Mewies (Delyn): Mae cyflyrau anadlol cronig yn pennu, erbyn mis Ebrill 2008, bydd offer achub bywyd hanfodol a chyfleusterau diagnostig syml ar gyfer argyfyngau anadlol ar gael mewn cyfleusterau brys ac wedi’u cefnogi gan hyfforddiant. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf. (WAQ54062)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i ffermio mynydd yng Nghymru. (WAQ54051)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sefydlu a datblygu'r Ardal Beilot Triniaeth Ddwys (IAPA) i rwystro TB Mewn gwartheg a moch daear rhag lledaenu. (WAQ54052)

Gofyn i un o gynrychiolwyr Comisiwn y Cynulliad

Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae Comisiynydd y Cynulliad yn eu cymryd i hyrwyddo’r Cynllun Rhoi Trwy’r Gyflogres yn y Cynulliad. (WAQ54053)