Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 29 Ebrill 2013 i’w hateb ar 7 Mai 2013
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau’r trafodaethau y mae ef a’i swyddogion wedi eu cael gyda’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr agweddau ar iechyd a lles yn y Bil Teithio Llesol (Cymru)? (WAQ64625)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Grant Sector Gwirfoddol Her Iechyd Cymru a manylu ynghylch pryd mae’n disgwyl iddo gael ei ryddhau? (WAQ64626)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno systemau TGCh a fyddai’n gwella’r arfer o rannu gwybodaeth ac atgyfeiriadau rhwng gwasanaethau gofal llygaid sylfaenol ac eilaidd? (WAQ64646)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd yn ystod y 12 mis diwethaf er mwyn gwella’r seilwaith TGCh ym maes gofal iechyd llygaid, a pha gynlluniau sydd gan y Gweinidog ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol mewn perthynas â seilwaith TGCh gwell ym maes gofal iechyd llygaid? (WAQ64647)