Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 7 Mehefin 2010
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W]
yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol - Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus, a pha gynnydd a wneir gan y Llywodraeth mewn cysylltiad â chasgliadau’r adroddiad. (WAQ56049)
Rhoddwyd
ateb ar 10 Mehefin 2010
Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol wedi bod o ddiddordeb i ni, ac mae'n adlewyrchu ein dadansoddiad ni'n hunain i raddau helaeth. Mae'r adroddiad yn cymeradwyo sawl menter sydd eisoes ar waith. Mae rhagor o waith yn mynd rhagddo drwy'r Bwrdd Effeithlonrwydd ac Arloesi, a gadeirir gan y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb, a thrwy bortffolios Gweinidogol unigol.
Gofyn
i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Rhowch fanylion yr holl gamau a gymerwyd dros y 18 mis diwethaf gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wrth baratoi ar gyfer gostyngiad posibl yng Nghronfa Gyfunol Cymru yn y flwyddyn ariannol bresennol ac i’r dyfodol. (WAQ56056)
Rhoddwyd
ateb ar 10 Mehefin 2010
Fel rhan o brosesau busnes arferol, rydym yn cynnal asesiad blynyddol o sut y gallwn fuddsoddi ein hadnoddau er mwyn cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Mae'r broses hon yn cynnwys asesu cynnydd o ran cyflawni amcanion Cymru'n Un a blaenoriaethu newydd sy'n dod i'r amlwg. Bob blwyddyn, mae angen i ni ddyrannu adnoddau'n strategol, o fewn y cyllid sydd ar gael, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i bobl Cymru. Mae'r ymarfer yn dod yn fwy heriol ar adegau pan gaiff y gyllideb ei lleihau, ond mae'r ddisgyblaeth yn aros yr un peth.
Gofyn
i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Kirsty
Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth oedd cyfanswm yr arbedion o ddwyn Dysgu ac Addysgu Cymru dan adain Llywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ56052) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog
Rhoddwyd
ateb ar 14 Mehefin 2010
Y Prif Weinidog (Carwyn Jones): Rwy'n ymateb i'r holl gwestiynau uchod ar ran y Gweinidogion perthnasol.
Rhan o'r rhesymeg a oedd yn sail i'r broses o uno'r Cyrff a Noddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2006 oedd gwneud arbedion o £10m y flwyddyn. Roedd yr arbedion hyn yn rhan annatod o'n targed Creu'r Cysylltiadau i arbed cyfanswm o £12m rhwng 2005 a 2010.
Er fy mod yn hyderus y gallwn ddangos ein bod wedi lleihau ein costau'n ddigonol dros y cyfnod hwn, nid ydym wedi ceisio olrhain na monitro arbedion yn erbyn pob un o feysydd polisi'r cyn-Gyrff a Noddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad. Yn hytrach, fel sefydliad cyfun, rydym wedi canolbwyntio ar gyflawni ein hamcanion corfforaethol.
Ar ôl yr uno, cafodd y cyn-Gyrff a Noddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ac adrannau perthnasol o Lywodraeth Cynulliad Cymru eu hinetgreiddio. Yn fwy diweddar, mae Cyfarwyddwyr Cyffredinol wedi ailstrwythuro eu hadrannau o amgylch ymrwymiadau Cymru'n Un i wella cydweithio ymhellach a helpu i gyflawni'r arbedion. O gofio'r cefndir hwn, byddai angen gorbenion sylweddol i olrhain costau ac arbedion yn erbyn cyn-Gyrff unigol a Noddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad. O gofio'r newidiadau strwythurol, byddai'n rhaid ystyried safbwyntiau goddrychol ar sut i ddyrannu costau ac arbedion i'r hen gyrff, a fyddai'n tanseilio dilysrwydd unrhyw wybodaeth o'r fath.
Er enghraifft, cyflawnwyd arbedion uno yn rhannol drwy waredu swyddogaethau canolog dyblyg. Nid oes gennym bum adran Adnoddau Dynol mwyach er enghraifft, ond byddai'n rhaid i unrhyw ddull o briodoli'r arbedion hyn i un Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad neu i un Adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru yn hytrach nag un arall fod yn seiliedig ar dybiaethau.
Gan ystyried hyn, hyderaf y byddwch yn gwerthfawrogi pam nad ydym wedi mynd i gostau gorbenion sy'n gysylltiedig â chasglu gwybodaeth am leihau costau yn y ffordd y gwnaethoch ofyn.
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod ei ddatganiad sydd yn yr arfaeth yn ymwneud â 'phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n symud o addysg cyn-16 i addysg ôl-16’ yn cynnwys manylion am gyllido ymchwil i anghenion addysg bellach. (WAQ56053)
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A yw’r Gweinidog yn gallu cadarnhau pa bryd mae’n bwriadu gwneud ei ddatganiad i’r Cyfarfod Llawn ar y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ymwneud â 'phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol sy'n symud o addysg cyn-16 i addysg ôl-16’. (WAQ56054)
Rhoddwyd
ateb ar 10 Mehefin 2010
Gwnaeth fy natganiad yn y cyfarfod llawn ar 22 Mawrth nodi gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Nid wyf yn bwriadu cyflwyno datganiad arall hyd nes fy mod wedi ystyried argymhellion y Grŵp.
Gofyn
i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Kirsty
Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth oedd cyfanswm yr arbedion a gyflawnwyd drwy ddwyn Awdurdod Datblygu Cymru dan adain Llywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ56050) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog
Rhoddwyd
ateb ar 14 Mehefin 2010
Y Prif Weinidog (Carwyn Jones): Rwy'n ymateb i'r holl gwestiynau uchod ar ran y Gweinidogion perthnasol.
Rhan o'r rhesymeg a oedd yn sail i'r broses o uno'r Cyrff a Noddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2006 oedd gwneud arbedion o £10m y flwyddyn. Roedd yr arbedion hyn yn rhan annatod o'n targed Creu'r Cysylltiadau i arbed cyfanswm o £12m rhwng 2005 a 2010.
Er fy mod yn hyderus y gallwn ddangos ein bod wedi lleihau ein costau'n ddigonol dros y cyfnod hwn, nid ydym wedi ceisio olrhain na monitro arbedion yn erbyn pob un o feysydd polisi'r cyn-Gyrff a Noddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad. Yn hytrach, fel sefydliad cyfun, rydym wedi canolbwyntio ar gyflawni ein hamcanion corfforaethol.
Ar ôl yr uno, cafodd y cyn-Gyrff a Noddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ac adrannau perthnasol o Lywodraeth Cynulliad Cymru eu hinetgreiddio. Yn fwy diweddar, mae Cyfarwyddwyr Cyffredinol wedi ailstrwythuro eu hadrannau o amgylch ymrwymiadau Cymru'n Un i wella cydweithio ymhellach a helpu i gyflawni'r arbedion. O gofio'r cefndir hwn, byddai angen gorbenion sylweddol i olrhain costau ac arbedion yn erbyn cyn-Gyrff unigol a Noddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad. O gofio'r newidiadau strwythurol, byddai'n rhaid ystyried safbwyntiau goddrychol ar sut i ddyrannu costau ac arbedion i'r hen gyrff, a fyddai'n tanseilio dilysrwydd unrhyw wybodaeth o'r fath.
Er enghraifft, cyflawnwyd arbedion uno yn rhannol drwy waredu swyddogaethau canolog dyblyg. Nid oes gennym bum adran Adnoddau Dynol mwyach er enghraifft, ond byddai'n rhaid i unrhyw ddull o briodoli'r arbedion hyn i un Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad neu i un Adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru yn hytrach nag un arall fod yn seiliedig ar dybiaethau.
Gan ystyried hyn, hyderaf y byddwch yn gwerthfawrogi pam nad ydym wedi mynd i gostau gorbenion sy'n gysylltiedig â chasglu gwybodaeth am leihau costau yn y ffordd y gwnaethoch ofyn.
Gofyn
i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth oedd cyfanswm y gostyngiad yng nghostau gweinyddol y GIG o ganlyniad i’r ad-drefnu diweddar. (WAQ56055)
Rhoddwyd
ateb ar 10 Mehefin 2010
Gwnaeth fy natganiad yn y cyfarfod llawn ar 22 Mawrth nodi gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Nid wyf yn bwriadu cyflwyno datganiad arall hyd nes fy mod wedi ystyried argymhellion y Grŵp.
Gofyn
i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Kirsty
Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth oedd cyfanswm yr arbedion a gyflawnwyd drwy ddwyn Bwrdd Croeso Cymru dan adain Llywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ56051) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Prif Weinidog
Rhoddwyd
ateb ar 14 Mehefin 2010
Y Prif Weinidog (Carwyn Jones): Rwy'n ymateb i'r holl gwestiynau uchod ar ran y Gweinidogion perthnasol.
Rhan o'r rhesymeg a oedd yn sail i'r broses o uno'r Cyrff a Noddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2006 oedd gwneud arbedion o £10m y flwyddyn. Roedd yr arbedion hyn yn rhan annatod o'n targed Creu'r Cysylltiadau i arbed cyfanswm o £12m rhwng 2005 a 2010.
Er fy mod yn hyderus y gallwn ddangos ein bod wedi lleihau ein costau'n ddigonol dros y cyfnod hwn, nid ydym wedi ceisio olrhain na monitro arbedion yn erbyn pob un o feysydd polisi'r cyn-Gyrff a Noddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad. Yn hytrach, fel sefydliad cyfun, rydym wedi canolbwyntio ar gyflawni ein hamcanion corfforaethol.
Ar ôl yr uno, cafodd y cyn-Gyrff a Noddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ac adrannau perthnasol o Lywodraeth Cynulliad Cymru eu hinetgreiddio. Yn fwy diweddar, mae Cyfarwyddwyr Cyffredinol wedi ailstrwythuro eu hadrannau o amgylch ymrwymiadau Cymru'n Un i wella cydweithio ymhellach a helpu i gyflawni'r arbedion. O gofio'r cefndir hwn, byddai angen gorbenion sylweddol i olrhain costau ac arbedion yn erbyn cyn-Gyrff unigol a Noddwyd gan Lywodraeth y Cynulliad. O gofio'r newidiadau strwythurol, byddai'n rhaid ystyried safbwyntiau goddrychol ar sut i ddyrannu costau ac arbedion i'r hen gyrff, a fyddai'n tanseilio dilysrwydd unrhyw wybodaeth o'r fath.
Er enghraifft, cyflawnwyd arbedion uno yn rhannol drwy waredu swyddogaethau canolog dyblyg. Nid oes gennym bum adran Adnoddau Dynol mwyach er enghraifft, ond byddai'n rhaid i unrhyw ddull o briodoli'r arbedion hyn i un Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad neu i un Adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru yn hytrach nag un arall fod yn seiliedig ar dybiaethau.
Gan ystyried hyn, hyderaf y byddwch yn gwerthfawrogi pam nad ydym wedi mynd i gostau gorbenion sy'n gysylltiedig â chasglu gwybodaeth am leihau costau yn y ffordd y gwnaethoch ofyn.
Gofyn
i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa archwiliadau a gaiff swyddogion a chontractwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn amddiffyn oedolion a phlant agored i niwed cyn eu bod yn cael caniatâd i gamu ar dir preifat i geisio difa moch daear yng ngogledd sir Benfro. (WAQ56057)
Rhoddwyd
ateb ar 10 Mehefin 2010
Mae pob contractwr sy'n rhan o'r Rhaglen i Ddileu TB yn unigolion cyfrifol a medrus. Maent i gyd wedi cyflawni gwiriadau fetio diogelwch cenedlaethol, sy'n cynnwys gwiriad ar gyfer collfarnau sydd wedi darfod a chollfarnau sydd heb ddarfod ac mae contractwyr sy'n gorfod meddu ar drwydded drylliau eisoes wedi cael gwiriadau ychwanegol gan yr Heddlu.
Ni fyddant yn dod i gysylltiad rheolaidd heb oruchwyliaeth â phlant nac oedolion sy'n agored i niwed a phrin fydd y cyswllt rhwng y tirfeddiannwr/preswyliwr a'r contractwyr. Bydd cyswllt cychwynnol cyn i'r contractwyr ddechrau gweithio a chysylltir â'r tirfeddiannwr/preswyliwr eto pan fydd y gwaith o faglu a difa'r moch daear ar eu tir wedi'i gwblhau.
Mae pob aelod o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyflawni gwiriadau diogelwch priodol sy'n cyd-fynd â'r gweithgareddau y byddant yn eu gwneud. Mae gwiriadau yn unol â gofynion Swyddfa'r Cabinet.
Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i leihau gwallau wrth weinyddu’r Taliad Sengl. (WAQ56058)
Rhoddwyd
ateb ar 14 Mehefin 2010
Caiff Ffurflenni Cais Sengl eu prosesu gan ddefnyddio rheolau sy'n lliniaru'r risg o wallau. Mae Taliadau Gwledig Cymru yn darparu llythyrau cydnabod manwl fel y gall ffermwyr gael cadarnhad ein bod wedi cipio eu data'n gywir. Mae nifer y gwallau a nodwyd yn erbyn y 18,000+ o ffurflenni yn fach iawn a gellir eu hunioni.