07/10/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 7 Hydref 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 7 Hydref 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

David Melding (Canol De Cymru): Pa fesurau sydd mewn grym i hyrwyddo ymgyrch yr UE i 'feddwl am fusnesau bach yn gyntaf’ fel ffordd o hyrwyddo twf Busnesau Bach a Chanolig? (WAQ52561)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Cafodd ein Cymorth Hyblyg i Fusnes a’n Cronfa Fuddsoddi Sengl (www.business-support-wales.gov.uk) eu cynllunio’n benodol i wneud y gwaith o roi cymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru i fusnesau bach yn symlach ac osgoi dryswch ynghylch yr hyn y gellir ei gynnig i’w helpu i ffynnu a thyfu.

David Melding (Canol De Cymru): Pa fesurau sydd mewn grym i roi ar waith Gweithred Busnesau Bach ar gyfer Ewrop y Comisiwn Ewropeaidd? (WAQ52562)

Ieuan Wyn Jones: Mae llawer o agweddau ar y ddeddf mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru eisoes wedi’u cwmpasu gan ein Cymorth Hyblyg i Fusnes a’n Cronfa Fuddsoddi Sengl (www.business-support-wales.gov.uk); dechreuodd y Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru a’r Siarter 'Agor Drysau’ ar gyfer Caffael sy’n Gyfeillgar i Fusnesau Bach a Chanolig diweddar, yn 2006.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa bryd y gellid disgwyl cyhoeddiad y Strategaeth Nyrsys Ysgol? (WAQ52558)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Cyflwynwyd yr ymgynghoriad ar ddatblygu Gwasanaeth Nyrsys Teulu i Gymru ar 15fed Medi 2008 am ddeuddeg wythnos. Bydd canlyniadau ar gael ar ddechrau 2009.

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): O ganlyniad i’r oedi cyn cyhoeddi’r strategaeth, a yw’r Gweinidog yn bwriadu dwyn ymlaen yr arian a neilltuwyd ar gyfer nyrsys ysgol i’r flwyddyn nesaf ac a gaiff yr arian ei glustnodi? (WAQ52559)

Edwina Hart: Er nad yw’n bosibl cario tanwariant ymlaen o un flwyddyn i’r nesaf, ar hyn o bryd mae £1.5 miliwn ar gael i gynnal y strategaeth yn 2009-10 a £2 filiwn yn 2010-11. Os bydd y strategaeth yn dangos bod angen rhagor o arian i gyflawni ein hymrwymiad Cymru’n Un erbyn diwedd Tymor hwn y Cynulliad ymdrinir ag ef drwy’r broses pennu cyllideb flynyddol.