Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 30 Medi 2009 i’w hateb ar 07 Hydref 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Mewn sawl ateb i gwestiynau ysgrifenedig y mae’r Prif Weinidog wedi ateb drwy ddatgan 'Ni chaiff yr wybodaeth hon ei chadw’n ganolog’ ac a fyddai’r Gweinidog yn darparu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn er 1999. (WAQ54917)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Mewn sawl ateb i gwestiynau ysgrifenedig y mae’r Gweinidog wedi ateb drwy ddatgan 'Ni chaiff yr wybodaeth hon ei chadw’n ganolog’ ac a fyddai’r Gweinidog yn darparu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn er 1999. (WAQ54919)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan pa gyllideb sydd ar gael ar gyfer hyfforddi a chefnogi rheolwyr cyfrifon newydd sy’n cefnogi’r polisi a’r rhaglen Cymorth Hyblyg i Fusnes. (WAQ54912)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgan faint o arian sydd wedi cael ei wario ar hyfforddi rheolwyr cyfrifon newydd sy’n cefnogi’r polisi a’r rhaglen Cymorth Hyblyg i Fusnes. (WAQ54913)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyfforddiant sy’n cael ei ddarparu i reolwyr cyfrifon newydd sy’n cefnogi’r polisi a’r rhaglen Cymorth Hyblyg i Fusnes. (WAQ54914)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Mewn sawl ateb i gwestiynau ysgrifenedig y mae’r Gweinidog wedi ateb drwy ddatgan 'Ni chaiff yr wybodaeth hon ei chadw’n ganolog’ ac a fyddai’r Gweinidog yn darparu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn er 1999. (WAQ54918)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Mewn sawl ateb i gwestiynau ysgrifenedig y mae’r Gweinidog wedi ateb drwy ddatgan 'Ni chaiff yr wybodaeth hon ei chadw’n ganolog’ ac a fyddai’r Gweinidog yn darparu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn er 1999. (WAQ54920)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Mewn sawl ateb i gwestiynau ysgrifenedig y mae’r Gweinidog wedi ateb drwy ddatgan 'Ni chaiff yr wybodaeth hon ei chadw’n ganolog’ ac a fyddai’r Gweinidog yn darparu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn er 1999. (WAQ54922)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gefnogaeth y mae’r GIG yn ei rhoi i bersonél milwrol wrth iddynt wella ac adsefydlu yn dilyn anaf mewn gwrthdaro ac a fu cynnydd mewn cefnogaeth oherwydd y baich presennol ar y lluoedd arfog. (WAQ54903)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ganran o fenywod cymwys sy’n cael eu sgrinio am ganser y fron bob tair blynedd, wedi’i ddadansoddi fesul bwrdd iechyd lleol ac ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ54904)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl (a) diagnosis o ganser a fethwyd, (b) gwall radiotherapi ac (c) gwall cemotherapi a gofnodwyd ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf y mae ffigurau ar gael ar ei gyfer. (WAQ54905)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw’r cyfanswm a dalwyd gan gleifion deintyddol y DU mewn ffioedd bob blwyddyn er 1999. (WAQ54906)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Fesul Ymddiriedolaeth GIG, faint y mae ysbytai unigol wedi’i wario ar gyffuriau cemotherapi ym mhob blwyddyn er 1999, neu y mae ffigurau ar gael ar ei gyfer, a beth oedd nifer y cleifion a gafodd gemotherapi. (WAQ54907)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Fesul Bwrdd Iechyd Lleol, faint sydd wedi cael ei wario fesul claf ar ofal strôc ym mhob blwyddyn y mae ffigurau ar gael ar ei gyfer. (WAQ54908)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw’r gwariant blynyddol fesul Bwrdd Iechyd Lleol ar gyffuriau canser drwy bresgripsiynau i gleifion eu codi mewn fferyllfeydd ym mhob blwyddyn y mae ffigurau ar gael ar ei gyfer. (WAQ54909)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Fesul Bwrdd Iechyd Lleol, faint sydd wedi cael ei wario fesul claf ar ofal canser ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ54910)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o bobl yng Nghymru a gafodd ddiagnosis bod canser arnynt ym mhob blwyddyn er 1999, wedi’u dadansoddi yn ôl cyflyrau penodol. (WAQ54911)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Mewn sawl ateb i gwestiynau ysgrifenedig y mae’r Gweinidog wedi ateb drwy ddatgan 'Ni chaiff yr wybodaeth hon ei chadw’n ganolog’ ac a fyddai’r Gweinidog yn darparu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn er 1999. (WAQ54915)
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): I ble y mae cleifion o Bowys yn teithio er mwyn cael triniaeth dialysis. (WAQ54925)
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y cleifion ym Mhowys sydd ag angen triniaeth dialysis. (WAQ54926)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Pa gyllid a gynigir ar gyfer Grwpiau Cyfeirio Rhanddeiliaid ar lefel Sir. (WAQ54927)
Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Mewn sawl ateb i gwestiynau ysgrifenedig y mae’r Gweinidog wedi ateb drwy ddatgan 'Ni chaiff yr wybodaeth hon ei chadw’n ganolog’ ac a fyddai’r Gweinidog yn darparu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn er 1999. (WAQ54923)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Mewn sawl ateb i gwestiynau ysgrifenedig y mae’r Gweinidog wedi ateb drwy ddatgan 'Ni chaiff yr wybodaeth hon ei chadw’n ganolog’ ac a fyddai’r Gweinidog yn darparu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn er 1999. (WAQ54921)
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa wybodaeth sydd gan y Gweinidog am nifer y coleri cwn sy’n rhoi sioc drydanol a ddefnyddir yng Nghymru. (WAQ54928)
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Faint o erlyniadau a wnaethpwyd yng Nghymru dros y tair blynedd diwethaf am greulondeb yn erbyn cwn drwy ddefnyddio coleri cwn sy’n rhoi sioc drydanol. (WAQ54929)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Mewn sawl ateb i gwestiynau ysgrifenedig y mae’r Gweinidog wedi ateb drwy ddatgan 'Ni chaiff yr wybodaeth hon ei chadw’n ganolog’ ac a fyddai’r Gweinidog yn darparu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn er 1999. (WAQ54916)
Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Mewn sawl ateb i gwestiynau ysgrifenedig y mae’r Prif Weinidog wedi ateb drwy ddatgan 'Ni chaiff yr wybodaeth hon ei chadw’n ganolog’ ac a fyddai’r Gweinidog yn darparu ffigurau ar gyfer pob blwyddyn er 2007. (WAQ54924)