Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 30 Tachwedd 2010 i’w hateb ar 07 Rhagfyr 2010
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae pob adran yn rhoi cyfrif am gostau llety dros nos, costau teithio, costau cynhaliaeth a mân dreuliau Gweinidogion yn eu gweithdrefnau cyfrifo adrannol. (WAQ56832)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa hyfforddiant pellach a roddir i athrawon newydd gymhwyso o bob cwr o’r DU sy’n dymuno dysgu yng Nghymru, a chofio’r systemau addysg gwahanol sy’n bodoli, yn enwedig ar lefel ysgolion cynradd. (WAQ56823)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth yw cyfanswm cost darparu hyfforddiant i athrawon newydd gymhwyso o’r tu allan i Gymru sy’n dymuno addysgu yng Nghymru. (WAQ56824)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Faint o arian y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wario ar ei pholisi ffioedd dysgu, bob blwyddyn, dros y pum mlynedd diwethaf. (WAQ56825)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am gyfanswm nifer y disgyblion mewn addysg alwedigaethol yng Nghymru ym mhob un o'r pum mlynedd diwethaf, wedi’u dadansoddi fesul maes pwnc. (WAQ56826)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth yw cyfanswm nifer y disgyblion mewn addysg alwedigaethol yng Nghymru o’i gymharu â nifer y myfyrwyr sy’n astudio ar lefel academaidd. (WAQ56827)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): Beth yw cyfanswm nifer y dysgwyr sy’n astudio ar lefel addysg bellach yng Nghymru, wedi’i ddadansoddi fesul awdurdod addysg lleol, ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ56828)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr amserlen ar gyfer datblygu’r rheilffordd rhwng Gaer a Wrecsam. (WAQ56830)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i ehangu'r rheilffordd rhwng Wrecsam, Saltney a Thre-gwyr. (WAQ56831)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa bryd y bydd mynediad priodol i’r anabl ar gael yng ngorsaf drenau Llandaf. (WAQ56833)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa fesurau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i gefnogi ymchwil i ddiabetes Math 1. (WAQ56829)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Rhodri Morgan (Gorllewin Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru ynghylch (a) eu huchafswm a aseswyd ar gyfer benthyca darbodus, a (b) lefel bresennol y benthyca darbodus. (WAQ56822)