Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 1 Mawrth 2017 i'w hateb ar 8 Mawrth 2017
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)
Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb. Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at ei lythyr FM/01011/15, a wnaiff y Prif Weinidog roi manylion y swyddogion a'r cynghorwyr arbenigol y cyfeiria atynt, gan nodi eu henwau a'r swyddogaethau oedd ganddynt o fewn Llywodraeth Cymru? (WAQ73093)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at gais ATISN10957 am wybodaeth, a wnaiff y Prif Weinidog ddarparu rhestr o'r holl gyfarfodydd a ddigwyddodd rhwng 25 Tachwedd 2015 a 30 Ebrill 2016, gan roi manylion y lleoliadau ac unrhyw alwadau fideo / galwadau cynadledda a gynhaliwyd ar y mater hwn yn ystod y cyfnod hwnnw? (WAQ73094)
Derbyniwyd ateb ar 16 Mawrth 2017
Prif Weinidog Cymru (Carwyn Jones): The officials and specialist advisors referred to in my letter, reference FM/01011/15, include the Deputy Permanent Secretary for Economy, Skills and Natural Resources, James Price, the Director for Sectors and Business, Mick McGuire and other commercial officials in the Department for Economy and Infrastructure’s Business Solutions Division. The specialist advisors include representatives of Grant Thornton, Price Waterhouse Coopers and Geldards LLP. There will have been a significant amount of meetings and conference calls held between those parties during the periods you have specified. To gather this information would take a disproportionate amount of officials’ time. Officials are not aware of any video calls having taken place.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynglŷn â diffyg deintyddion y GIG yn Nolgellau? (WAQ73091)W
Derbyniwyd ateb ar 16 Mawrth 2017
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (Vaughan Gething): Rwy’n ymwybodol bod practis deintyddol yn Nolgellau wedi rhoi rhybudd ei fod yn terfynu ei gontract gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o 31 Mawrth 2017. Rwy’n deall bod cynlluniau yn eu lle ar gyfer rhoi trefniadau dros dro ar waith i sicrhau y bydd y ddarpariaeth o wasanaethau deintyddol o dan y GIG yn parhau ar gyfer trigolion Dolgellau.
Pan fydd practis deintyddol yn penderfynu lleihau neu derfynu ei ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth o dan y GIG, bydd y bwrdd iechyd yn cadw’r cyllid cysylltiedig ar gyfer ail-gomisiynu’r gwasanaeth. Mae’r bwrdd iechyd wrthi’n cynnal proses dendro i gael gwasanaethau deintyddol newydd ac ychwanegol, ac mae wedi gwahodd ceisiadau gan gontractwyr deintyddol er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth o dan y GIG.
Mae’r bwrdd iechyd wedi cydnabod nad yw lefel y mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG cyfuwch ag yr hoffai iddo fod. Rwy’n disgwyl i’r bwrdd iechyd sicrhau bod darpariaeth newydd yn cael ei chynnig yn lle darpariaeth ddeintyddol y GIG sydd wedi dod i ben yn Nolgellau; ac iddo adolygu a gwella mynediad at wasanaethau deintyddol gofal sylfaenol y GIG drwy gyrraedd y targedau a bennwyd yn ei Gynllun Gweithredol 2016-17.
Hefin David (Caerffili): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth arthritis genedlaethol i Gymru? (WAQ73095)
Derbyniwyd ateb ar 6 Mawrth 2017
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon (Vaughan Gething): Our Service Development and Commissioning Directive for Arthritis and Chronic Musculoskeletal Conditions sets out the Welsh Government's vision for planning and delivering high quality services and support for people living with arthritis and chronic musculoskeletal conditions.
Work to refresh the directive has commenced and the revised directive will be published next financial year.
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Ers dechrau 2017, sawl gwaith y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cwrdd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn perthynas â'i statws Mesurau Arbennig? (WAQ73097)
Derbyniwyd ateb ar 16 Mawrth 2017
Vaughan Gething: I have visited North Wales once a month since the start of 2017 and will be undertaking a further visit on 13 March. When I am in the region the visits and meetings with staff include discussions in relation to the progress being made under special measures. My senior officials meet with the health board regularly to discuss special measures including a meeting with its executive team every six weeks.
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn perthynas â phryderon parhaus ynghylch amseroedd aros ar gyfer triniaethau orthopedig? (WAQ73098)
Derbyniwyd ateb ar 3 Mawrth 2017
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon(Vaughan Gething): I have regular discussions with the Chair of Betsi Cadwaladr UHB. Waiting times form a part of that conversation and the Chair is clear of my expectations to see improvements across all areas by the end of March and going forward.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau sawl hawliad am y Cynllun Taliad Sylfaenol a gafodd eu talu erbyn diwedd mis Ionawr 2017, a rhoi gwybod pa ganran o'r hawliadau a gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn ariannol hon oedd y taliadau hyn yn cyfateb iddo? (WAQ73096)
Derbyniwyd ateb ar 16 Mawrth 2017
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (Lesley Griffiths): As of 31 January, 14,661 (95%) farm businesses had received their 2016 Basic Payment Scheme payment.
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Yn dilyn ailbrisio diweddar gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, pa sylwadau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch sicrhau y caiff Cymru gyfran gymesur o'r rhyddhad pontio gwerth £3.6 biliwn a addawyd i fusnesau yn Lloegr? (WAQ73092)
Derbyniwyd ateb ar 16 Mawrth 2017
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (Mark Drakeford): The transitional rates relief scheme in England is being funded entirely by limiting the reductions for ratepayers who see a fall in their liability as a result of the valuation. As a result there are no funds available to Wales from this approach. In contrast to the self-financing scheme in England, the Welsh Government is fully funding the £10 million transitional relief scheme in Wales so that all ratepayers with a reduction in rateable value will receive the full benefit of this from 1 April 2017. The Welsh Government is also fully funding the £10 million High Street Rates Relief scheme announced in December.