08/05/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 8 Mai 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 8 Mai 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cyllido presenoldeb y Llyfrgell Genedlaethol yn Conarls—y cylch systemau llyfrgelloedd cenedlaethol a rhanbarthol? (WAQ51666)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Rhodri Glyn Thomas): Ar hyn o bryd nid yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ariannu presenoldeb Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Conarls—Cylch Swyddogion Systemau Llyfrgell Cenedlaethol a Rhanbarthol. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn arwain gwaith sy’n ymwneud â chanfod adnoddau a gwasanaethau ar-lein fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Llyfrgelloedd am Oes: Darparu Gwasanaeth Llyfrgell Modern i Gymru 2008-11 i ddatblygu gwasanaethau llyfrgell yng Nghymru sy’n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif. Caiff Llyfrgell Genedlaethol Cymru grant i wneud y gwaith hwn ar ran llyfrgelloedd Cymru gan CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru, is-adran o Lywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd y Llyfrgell yn sefydlu gweithgor cynrychioliadol a fydd, ymhlith pethau eraill, yn ystyried cynrychiolaeth ac aelodaeth cyrff perthnasol megis Conarls. Yn y cyfamser mae’r Llyfrgell wedi cyflwyno adroddiad llawn ar weithgareddau yng Nghymru i Conarls.