08/05/2009 - Ateb i Gwestiwn Ysgrifenedig y Cynulliad 54065 i'w ateb ar 8 Mai 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Ateb i Gwestiwn Ysgrifenedig y Cynulliad 54065 i’w ateb ar 8 Mai 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiwn i'r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion gwariant cyhoeddus yng Nghymru fel cyfran o’r Cynnyrch Mewnwladol Crynswth ar gyfer pob blwyddyn er 1999. (WAQ54065)

Rhoddwyd ateb ar 8 Ionawr 2010

Ysgrifennaf mewn ymateb i’ch Cwestiwn Ysgrifenedig lle’r aethoch ati i ofyn am fanylion gwariant cyhoeddus yng Nghymru fel cyfran o CMC er 1999. Ymrwymais i anfon ateb atoch er mwyn rhoi’r wybodaeth y gwnaed cais amdani, a hoffwn ymddiheuro am yr oedi cyn anfon yr ateb hwnnw.

Mae’r tabl isod yn nodi gwariant cyhoeddus y gellir ei nodi yng Nghymru fel canran o’r Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) ar gyfer Cymru. Caiff GYC ei ddefnyddio yn lle CMC yn y Cyfrifon Rhanbarthol sy’n cael eu paratoi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ateb i Gwestiwn Ysgrifenedig y Cynulliad 54065 i'w ateb ar 8 Mai 2009
 

Gwariant cyhoeddus y gellir ei nodi ar wasanaethau yng Nghymru (£bn)

Prif Werth Ychwanegol Crynswth (£bn)

Gwariant cyhoeddus y gellir ei nodi fel canran o GYC

       

2003

20.6

37.3

55.3%

2004

21.6

39.0

55.4%

2005

23.0

40.5

56.9%

2006

24.2

42.2

57.3%

2007

25.3

44.3

57.2%

2008

27.4

45.6

60.1%

       
       

Ffynhonnell: Dadansoddiadau Ystadegol o Wariant Cyhoeddus, Cyfrifon Rhanbarthol

Oedwyd cyn anfon ateb atoch er mwyn sicrhau bod modd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn unol â’r Dadansoddiadau Ystadegol o Wariant Cyhoeddus ar gyfer 2009 a’r ffigurau diweddaraf ar gyfer GYC a gafodd eu rhyddhau heddiw gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Nid yw’r ffigurau ar gyfer y blynyddoedd cyn 2003 wedi’u cynnwys yn y tabl gan nad yw’r data ar wariant cyhoeddus ar gael mewn ffurf gyson.