Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 30 Ebrill 2013 i’w hateb ar 8 Mai 2013
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Ar sawl diwrnod yn ystod y 12 mis diwethaf roedd gwibffordd yr A55 yng Ngogledd Cymru yn rhydd o waith ffordd? (WAQ64627)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran sicrhau trydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru? (WAQ64628)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i wella amseroedd aros ar gyfer cleifion canser brys? (WAQ64629)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer staff y GIG sydd wedi tynnu'n ôl o'r rhaglen Pencampwyr Iechyd? (WAQ64630)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau'r targedau arbedion ar gyfer pob bwrdd iechyd lleol am y flwyddyn ariannol gyfredol a sut y mae'n disgwyl i fyrddau iechyd lleol gyrraedd y targedau hyn? (WAQ64631)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau nifer y meddygon sydd wedi eu recriwtio yn sgîl ymgyrch Llywodraeth Cymru Gweithio dros Gymru ers iddi gael ei sefydlu? (WAQ64632)
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu amserlen ar gyfer ystyried adolygiad McClelland a gweithredu'r argymhellion? (WAQ64633)