Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 30 Ebrill 2015 i'w hateb ar 8 Mai 2015
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb. Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.
Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Elin Jones (Ceredigion): A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi ymateb i adroddiad terfynol ymchwiliad Penrose? (WAQ68649)
Derbyniwyd ateb ar 11 Mai 2015
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Mark Drakeford): The Penrose Inquiry covered a complicated series of events in Scotland. This is a valuable review of the Scottish experience. It will form part of continuing consideration of these matters between all four UK nations. I do not intend to issue a formal Wales-only response to the report.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o ysbytai yng Nghymru sydd ag o leiaf un Nyrs Arbenigol Clefyd Llid y Coluddyn a faint o'r rhain sy'n gweithio ar drefniant amser llawn? (WAQ68650)Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Beth yw'r amser aros ar gyfartaledd ar gyfer llawdriniaeth ddewisol i berson sydd â Chlefyd Llid y Coluddyn: (i) ar gyfer y tair blynedd ddiwethaf; a (ii) ar gyfer pob ysbyty yng Nghymru? (WAQ68651)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r amserau aros ar gyfer llawdriniaeth ddewisol i bobl sydd â Chlefyd Llid y Coluddyn? (WAQ68652)
Derbyniwyd ateb ar 11 Mai 2015
Mark Drakeford:
The number of inflammatory bowel disease (IBD) specialist nurses per hospital in Wales is described in the Royal College of Physicians' organisational audit report for IBD services:
https://www.rcplondon.ac.uk/projects/ibdauditround4
Data on waiting times for elective surgery for IBD is available from individual health boards. The audit report recommends services implement local systems to monitor waiting times for newly-diagnosed and relapsing IBD patients.
People with IBD who are referred for treatment should receive it in order of clinical priority, within Welsh Government targets.