Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 9 Chwefror 2010
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W]
yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau p’un ai a all athro cyflenwi gael ei gyflogi’n gyfreithiol gan Awdurdod Addysg Lleol a chael ei dalu ar gyfradd fesul awr a bennir gan yr ysgol. (WAQ55578)
Rhoddwyd
ateb ar 2 Mawrth 2010
Gellir cyflogi athrawon cyflenwi gan awdurdodau lleol, a rhoi eu henwau ar y gofrestr cyflenwi leol. Caiff yr holl athrawon cymwysedig, gan gynnwys athrawon cyflenwi, a gyflogir gan awdurdod lleol neu ysgol a gynhelir eu talu yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol. Os ydynt yn gweithio'n rhan amser, dylai'r gyfradd yr awr a bennir ar eu cyfer gan eu cyflogwr gyd-fynd â'r amodau hyn. Nid yw cyflog athrawon wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae'n parhau'n gyfrifoldeb yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd.
Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pryd fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyhoeddi’r Rheoliadau Ffederaleiddio Ysgolion a Gynhelir. (WAQ55581) W
Rhoddwyd
ateb ar 10 Chwefror 2010
Rwy'n bwriadu ystyried y rheoliadau drafft y mis hwn, ac os wyf yn fodlon, byddaf yn eu gweithredu drwy'r weithdrefn penderfyniad negyddol wedi hynny.
Gofyn
i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog restru’r swm gwirioneddol y bydd pob Awdurdod Lleol yn ei gael o’r £2.75m a gyhoeddwyd yn ddiweddar i atgyweirio tyllau yn y ffordd ac a wnaiff gadarnhau bod y swm hwn yn ychwanegol at y £5m a gyhoeddwyd ar gyfer y Grant Cynnal a Chadw Ffyrdd Lleol yn Rhagfyr 2009. (WAQ55577)
Rhoddwyd
ateb ar 2 Mawrth 2010
Dyrannwyd Grant Cyfalaf ar gyfer Cynnal a Chadw Ffyrdd o £15 miliwn ar gyfer 2009-10 ynghyd â £2.75 miliwn o arian refeniw ychwanegol o ganlyniad i'r tywydd garw diweddar. Mae'r tabl atodedig yn dangos y symiau a ddyrannwyd i bob Awdurdod Lleol. Cyfrifwyd y rhain gan ddefnyddio fformiwla'r Asesiad o Wariant Safonol.
Dyrannwyd Grant Cyfalaf ar gyfer Cynnal a Chadw Ffyrdd o £5 miliwn ar gyfer 2010-11.
AWDURDOD LLEOL |
ARIAN YCHWANEGOL |
Cyngor Sir Gwynedd |
181,718 |
Cyngor Sir Gâr |
208,864 |
Chyngor Sir y Fflint |
132,851 |
Cyngor Bro Morgannwg |
105,260 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy |
118,944 |
Cyngor Sir Fynwy |
85,241 |
Chyngor Sir Ynys Môn |
83,116 |
Cyngor Sir Ceredigion |
113,497 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf |
174,219 |
Cyngor Sir Powys |
216,933 |
Cyngor Sir Benfro |
145,480 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam |
101,167 |
Cyngor Sir Ddinbych |
111,448 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr |
108,800 |
Cyngor Caerffili |
133,732 |
Dinas a Sir Caerdydd |
233,838 |
Dinas a Sir Abertawe |
163,216 |
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot |
102,922 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen |
55,674 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd |
90,582 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent |
49,067 |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful |
33,431 |
CYFANSWM |
2,750,000 |
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer mentrau tai cydweithredol ecogyfeillgar at ddibenion rhentu. (WAQ55582) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio
Rhoddwyd
ateb ar 2 Mawrth 2010
Y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio (Jocelyn Davies): Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn parhau i annog datblygiad Sefydliadau cydweithredol, Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol a phrosiectau tai ecogyfeillgar sy'n cyfrannu at Ddatblygu Cynaliadwy. Mae ein gwaith yn y meysydd hyn wedi'i anelu at ddarparu Tai Fforddiadwy, gyda chymysgedd o ddeiliadaeth, a adeiladwyd ar gyfer pobl leol.
Mae Gweinidogion a swyddogion wedi ymweld â nifer o gwmnïau yng Nghymru sy'n defnyddio Dulliau Adeiladu Modern a all gyrraedd safonau amgylcheddol uchel. Fodd bynnag, caiff tai fforddiadwy eu darparu ar lefel leol drwy Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn gweithio gyda'u partneriaid yn bennaf. Felly, y prif bwynt cyswllt ar gyfer unrhyw gynnig newydd fyddai Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, sef y ffordd y mae'r rhan fwyaf o wariant cyfalaf ar dai yng Nghymru yn cael ei sianelu.
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn hyrwyddo datblygiad Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol yng Nghymru. I'r perwyl hwn, rydym yn rhoi cymorth ariannol o £50k y flwyddyn (2008/09 - 2011/12) i Land for People, o'r Gronfa Datblygu Gwledig. Mae Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol wedi cael mwy o sylw a chaiff cynlluniau eu datblygu ledled Cymru. Caiff llawlyfr dwyieithog ei lunio gan Land for People i hyrwyddo Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol ledled Cymru.
Gofyn
i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am foratoriwm Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn cysylltiad â chau ysbytai. (WAQ55579)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i newid polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru o ran cau ysbytai. (WAQ55580)
Rhoddwyd
ateb ar 2 Mawrth 2010
Roedd y moratoriwm ar gau ysbytai yn ymrwymiad a wnaeth Llywodraeth y Cynulliad i'r ACau yn dilyn etholiad 2007. Bwriedid i hyn fod dros dro er mwyn rhoi amser i mi ystyried y newidiadau i'r gwasanaethau a gynigiwyd gan Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) a'r broses briodol i ddatblygu'r symud ymlaen â'r rhain. Comisiynwyd nifer o adolygiadau a chodwyd y moratoriwm ar ddiwedd y broses o'u cynnal.
Gan ddefnyddio eu canfyddiadau a'u hargymhellion, cyhoeddais ganllawiau diwygiedig ym mis Hydref 2008 (ML016/08), sy'n nodi gofynion Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer ymgynghori ac ymgysylltu o ran newidiadau i wasanaethau megis cau ysbytai. Byrddau Iechydd Lleol sy'n gyfrifol am benderfyniadau ar ddarparu gwasanaethau, a hwy hefyd sy'n gyfrifol am adolygu a datblygu gwasanaethau ar gyfer eu trigolion. Mae'r canllawiau yn nodi y dylai unrhyw newid i wasanaeth a gaiff ei herio ei gyfeirio ataf i am benderfyniad terfynol.
Bydd y canllawiau yn cael eu hailystyried pan fydd y cam presennol o'r broses o ddiwygio'r GIG wedi'i gwblhau.