09/06/2008 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 02 Mehefin 2008 i’w hateb ar 09 Mehefin 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithgareddau'r Lluoedd Cadéts Cyfun yn ysgolion gwladol Cymru.  (WAQ51818)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa ddadansoddiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o lwyddiant neu fethiant gweithgareddau’r Lluoedd Cadéts Cyfun yn yr un ysgol wladol beilot. (WAQ51819)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i hybu ymestyn gweithgareddau’r Lluoedd Cadéts Cyfun ledled Cymru. (WAQ51820)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o blant dan 16 fydd yn ymuno ag addysg ôl-16 fis Medi yma ac na fyddant felly'n gymwys ar gyfer Lwfans Cynhaliaeth Addysg. (WAQ51824)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o fyfyrwyr yng Nghymru sydd wedi hawlio Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer mwy na dwy flynedd ers ei ddechrau yn 2004 / 2005. (WAQ51825)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi unrhyw ohebiaeth y mae ef neu ei swyddfa wedi’i chael yng nghyswllt yr Academi Amddiffyn arfaethedig ar gyfer Sain Tathan er mis Ionawr 2008. (WAQ51821)

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y datblygiadau diweddaraf i’r Academi Amddiffyn arfaethedig ar gyfer Bro Morgannwg. (WAQ51822)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Faint o lawdriniaethau a ganslwyd fesul ymddiriedolaeth ym mhob blwyddyn dros y 5 mlynedd diwethaf. (WAQ51823)