10/03/2010 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 10 Mawrth 2010

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 10 Mawrth 2010

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i Gynrychiolydd Comisiwn y Cynulliad

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gynlluniau ar gyfer dysgu addysg rhyw mewn ysgolion crefyddol, gan gyfeirio at y Mesur Plant, Ysgolion a Theuluoedd sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd yn San Steffan. (WAQ557732)

Rhoddwyd ateb ar 16 Mawrth 2010

Dim ond i Loegr y mae'r darpariaethau yn y Mesur Plant, Ysgolion a Theuluoedd ynghylch addysg rhyw yn berthnasol. Nid oes cynlluniau i newid y sefyllfa bresennol yng Nghymru.  

Mae'n ofynnol i bob ysgol a gynhelir, gan gynnwys ysgolion ffydd, feddu ar bolisi o ran darparu addysg rhyw. Dylai polisïau addysg rhyw fod yn ddiwylliannol a chrefyddol briodol, yn cynnwys pob dysgwr ac yn sensitif i anghenion y gymuned leol. Gall ysgolion ffydd ddefnyddio ethos crefyddol penodol drwy eu polisi addysg rhyw gan weithio o fewn gofynion statudol ac ystyried canllawiau a gyflwynir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Brian Gibbons (Aberafan): Fesul Bwrdd Iechyd Lleol, beth yw’r gwariant ar nyrsys asiantaeth a banc yng Nghymru. (WAQ55728)

Rhoddwyd ateb ar 16 Mawrth 2010

Nid yw'r wybodaeth ar gael ar gyfer cyfluniad newydd BILlau hyd nes y caiff y cyfrifon archwiliedig eu cyflwyno ym mis Mehefin 2010.

Brian Gibbons (Aberafan): Sut y mae cyrff llywodraethu Byrddau Iechyd Lleol yn defnyddio’r drefn adrodd am ddigwyddiadau niweidiol i wella gofal clinigol. (WAQ55729)

Brian Gibbons (Aberafan): Sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn monitro’r drefn adrodd am ddigwyddiadau niweidiol yn y GIG yng Nghymru. (WAQ55730)

Rhoddwyd ateb ar 16 Mawrth 2010

Mae Byrddau Iechyd Lleol yn cyflwyno adroddiadau ar ddigwyddiadau'n ymwneud â diogelwch cleifion i'w Pwyllgorau Ansawdd a Diogelwch er mwyn dysgu gwersi yn lleol a gwella gofal cleifion.  Hysbysir yr Asiantaeth Genedlaethol Diogelwch Cleifion (NPSA) am ddigwyddiadau'n ymwneud â diogelwch cleifion er mwyn gwella gofal cleifion yn genedlaethol.  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn monitro nifer y digwyddiadau'n ymwneud â diogelwch cleifion a gyflwynir drwy adroddiadau Data Chwarterol Cryno Cymru yr NPSA a chrynodebau ar lefel y sefydliad.

Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddarparu esboniad, yn ogystal â dadansoddiad llawn, am y £927,000 yn y gyllideb atodol ar gyfer Amgueddfeydd a Llyfrgelloedd i gyllido taliadau diswyddo. (WAQ55727)

Rhoddwyd ateb ar 16 Mawrth 2010

Caiff £690,000 o gyllid refeniw ei ddarparu i Amgueddfa Cymru er mwyn ei digolledu am y costau untro yr aeth iddynt o ganlyniad i broses diswyddiadau gwirfoddol ac ymddeoliad cynnar yn ystod 2009-10.  Mae'r gost hon yn cynnwys arian tuag at gynllun pensiwn yr Amgueddfa i sicrhau nad yw diffyg y Cynllun yn cynyddu o ganlyniad i'r diswyddiadau.

Caiff £237,000 o gyllid refeniw ei ddarparu i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer y costau untro yr aeth iddynt o ganlyniad i broses ymddeoliad cynnar gwirfoddol yn ystod 2009-10.  Caiff y £237,000 ei ddefnyddio i ddigolledu Cynllun Pensiwn y Llyfrgell er mwyn sicrhau nad yw diffyg y Cynllun yn cynyddu o ganlyniad i'r ymddeoliadau cynnar.

Bydd y cyllid hwn yn helpu ein sefydliadau cenedlaethol yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn.

Gofyn i Gynrychiolydd Comisiwn y Cynulliad

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa ystyriaeth y mae’r Comisiwn wedi’i rhoi i ddarparu meddalwedd i ysgrifennu ffeiliau PDF ar gyfer holl Aelodau’r Cynulliad a’u staff. (WAQ55731)

Rhoddwyd ateb ar 10 Mawrth 2010

Comisiynydd y Cynulliad a’r Dinesydd, Peter Black AC:

Bydd y diweddariad nesaf i systemau TGCh yr Aelodau yn cynnwys meddalwedd i ysgrifennu ffeiliau PDF, a darperir hynny fel rhan o gynnyrch Microsoft Office wedi’i ddiweddaru. Roedd y feddalwedd hon yn un o nifer o becynnau a drafodwyd gyda’r Aelodau a’u staff cymorth yn ystod y prosiect i-Change, ac mae canlyniadau hynny wedi arwain at gynnwys meddalwedd i ysgrifennu ffeiliau PDF yn rhan o brosiect y Cynulliad i uno rhwydwaith y sefydliad (y prosiect UNO). Mae disgwyl i’r prosiect hwnnw gael ei roi ar waith yn ystod tymor yr hydref.