Atebion a roddwyd i Aelodau ar 10 Mehefin 2009
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno
yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Yn dilyn trafodaeth eich adran ag Air Products, Acrefair, Wrecsam, pa gymorth ariannol a fyddai modd ei ddarparu gan neu drwy Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi gwrthgynigion i gadw’r safle hwn ar agor? (WAQ54290)
Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Mae’n rhaid i’r cymorth a ddarparwyd i ymgymeriadau sy’n ymwneud â gweithgaredd economaidd gael ei gyflwyno yn unol â rheolau cymorth Gwladwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd. Ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn archwilio pob opsiwn ariannu cyfreithiol sydd o fewn pwerau Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu cymorth i Air Products, gan ystyried cwmpas llawn y rheolau cymorth Gwladwriaethol a sicrhau y darperir unrhyw gymorth yn seiliedig ar achos busnes cadarn.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o gyllid y mae Network Rail wedi’i ddyrannu ar gyfer Rheilffordd y Cambrian? (WAQ54299)
Y Dirprwy Weinidog: Mae Network Rail yn buddsoddi £5 miliwn o’i Chronfa Berfformio i wella seilwaith Rheilffordd y Cambria rhwng Aberystwyth a’r Amwythig, fel rhan o fuddsoddiad ar y cyd gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o gyllid y mae Network Rail wedi’i wario ar Reilffordd y Cambrian? (WAQ54300)
Y Dirprwy Weinidog: Mae Network Rail wedi gwario £3.8 miliwn o’i Chronfa Berfformio i wella seilwaith Rheilffordd y Cambria rhwng Aberystwyth a’r Amwythig.
Mae Network Rail hefyd yn ariannu’r system signalau ERTMS sy’n cael ei threialu ar Linell y Cambria, ac hefyd yn darparu arian ar gyfer gwaith adnewyddu a gwaith cynnal a chadw arall. Mater i Network Rail yw hwn ac rwyf wedi gofyn iddynt gysylltu â chi i esbonio hyn yn fanylach.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o gyllid y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i ddyrannu ar gyfer Rheilffordd y Cambrian? (WAQ54301)
Y Dirprwy Weinidog: Rwy’n darparu £8 miliwn o arian cyfalaf i wella seilwaith Rheilffordd y Cambria rhwng Aberystwyth a’r Amwythig, fel rhan o fuddsoddiad ar y cyd gyda Network Rail.
Rwyf hefyd yn darparu tua £1.7 miliwn yn flynyddol ar gyfer trenau pedwar cerbyd ar Brif Linell y Cambria.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’i wario ar Reilffordd y Cambrian? (WAQ54302)
Y Dirprwy Weinidog: Hyd yma, mae £5 miliwn (o’r £8 miliwn) wedi’i wario ar wella seilwaith Rheilffyrdd y Cambria rhwng Aberystwyth a’r Amwythig.
Ers mis Rhagfyr 2006, mae tua £1.7 miliwn (ar brisiau cyfredol) wedi’i wario bob blwyddyn i atgyfnerthu’r gwasanaethau trenau pedwar cerbyd ar Brif Linell y Cambria.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch p’un ai a oes cynnydd wedi’i wneud gyda chyd-Weinidogion y DU a gyda Gweithrediaeth yr Alban ynghylch cydgordio’r cynlluniau consesiynau bws yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ledled y Deyrnas Unedig? (WAQ54307)
Y Dirprwy Weinidog: Mae trafodaethau rhwng fy swyddogion a swyddogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban yn mynd rhagddynt.
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pryd y bydd y broses ail-dendro yn dechrau ar gyfer darpariaeth FSB4 yng Nghanolbarth Cymru? (WAQ54308)
Y Dirprwy Weinidog: Disgwylir i’r broses dendro ddechrau ddydd Llun 8fed Mehefin 2009, a dylid penodi contractwr newydd yn gynnar ym mis Awst fan bellaf.
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Yn dilyn eich sylwadau i Ann Jones yn y Siambr ar 3 Mehefin 2009 yn ymwneud â’r Fenter Tocynnau Teithio Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol, beth yw eich cynlluniau ar gyfer cyllido hyn yn awr ac yn y blynyddoedd ariannol dilynol? (WAQ54311)
Y Dirprwy Weinidog: Ni fydd y trefniadau cyllido ar gyfer y Fenter Tocynnau Teithio Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol (CTCFI) yn newid ar gyfer 2009-10.
Felly, bydd y 15 o weithredwyr trafnidiaeth gymunedol sydd o fewn cwmpas y CTCFI yn gallu cynnig yr un lefel o wasanaeth â’r hyn a welwyd yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.
Ar gyfer 2010/11 a 2011/12, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion weithio’n agos gyda Chymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol Cymru i edrych ar ddichonoldeb model cyllido sy’n gynaliadwy ac yn cwmpasu’r sector trafnidiaeth gyhoeddus gyfan.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Yn ychwanegol at yr estyniad a roddwyd i Gyngor Sir y Fflint o ran y Safon Ansawdd Tai Cymru (a) beth yw’r sefyllfa bresennol, (b) beth sydd wedi cael ei gytuno neu sydd wrthi’n cael ei gytuno, ac (c) beth yw’r amserlenni dan sylw? (WAQ54317)
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Ar yr 17eg Chwefror 2009, pleidleisiodd Cyngor Sir y Fflint yn unfrydol i drefnu pleidlais i’w denantiaid o ran trosglwyddo’r stoc tai i landlord cymdeithasol cofrestredig. Noda’r awdurdod fod y bleidlais yn debygol o gael ei chynnal ddiwedd flwyddyn nesaf (2010). Yn y cyfamser bydd fy swyddogion yn gweithio’n agos gyda phrif weithredwr yr awdurdod yn ystod y cyfnod hwn cyn y bleidlais, a chaiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 15ed Gorffennaf 2009.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog (a) restru’r amgueddfeydd a’r orielau a gefnogwyd yng Nghymru, yn ogystal â’r cymorth ariannol a ddyfarnwyd i bob un ohonynt, a (b) nifer yr ymwelwyr a ddenwyd i bob un dros y 12 mis diwethaf? (WAQ54303)
Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Alun Ffred Jones): Dosbarthwyd tua £500,000 mewn grantiau i 50 o amgueddfeydd lleol gan Adran Dreftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2008-09, a hyd yn hyn mae tua £540,000 o grantiau wedi’u dyrannu i 28 o amgueddfeydd lleol yn 2009-10. Darperir manylion llawn yn Atodiad 1. Mae’r grantiau’n amodol ar brosesau gwneud cais, a chânt eu dosbarthu gan fy swyddogion yn CyMAL: is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru a Cadw.
Darparwyd £24.5 miliwn o gymorth grant i Amgueddfa Cymru—National Museum Wales gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2008-09, a bydd yn darparu £25.1 miliwn yn 2009-10. Yn ogystal, bydd yn darparu £1 miliwn ar draws 2008-10 i ddatblygu Adain Uchaf y Gorllewin yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a £250k i’w fuddsoddi mewn mesurau arbed ynni. Roedd cyfanswm nifer yr ymwelwyr ar gyfer saith safle Amgueddfa Cymru - National Museum Wales dros 1.5 miliwn yn 2008.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, fel Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad, yn derbyn cymorth grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae wedi buddsoddi tua £1,035,000 mewn grantiau i orielau yn 2008-09. Ceir manylion llawn yn Atodiad 2. Dylid nodi nad yw hyn yn cynnwys tua £2,642,000 o grantiau a ddarparwyd i ganolfannau celfyddydau amlswyddogaeth ag orielau yn 2008-09, am na ellir gwahanu arian sy’n benodol ar gyfer orielau.
Lle bo’r ffigurau ar gael, mae nifer yr ymwelwyr ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf wedi’i ychwanegu at y rhestrau gan ddefnyddio canlyniadau arolwg diweddaraf Ymweliadau ag Atyniadau Twristaidd 2008, a gafodd ei baratoi ar gyfer Croeso Cymru gan Beaufort Research.
Atodiad
1
CyMAL: Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru
Amgueddfa |
2008-09 - grantiau a dalwyd |
2009-10 - grantiau a ddyrannwyd |
Ffigurau ymwelwyr 2008* |
Amgueddfa y Fenni |
|
£5,000.00 |
19,205 |
Amgueddfa Gerflunio Andrew Logan |
£1,427.00 |
|
|
CBC Blaenau Gwent |
|
£22,026.00 |
|
Castell Bodelwyddan |
£14,739.94 |
£22,480.00 |
39,472 |
Amgueddfa Sir Frycheiniog |
£30,285.41 |
£20,000.00 |
19,257 |
Amgueddfa Brynmawr a’r Cylch |
£2,194.68 |
|
|
Gwasanaethau Amgueddfa a Threftadaeth Caerffili |
£9,453.00 |
|
|
CARAD |
£1,212.00 |
|
|
Castell Caerdydd |
|
£11,000.00 |
221,903 |
Amgueddfa Sir Gaerfyrddin |
£17,996.00 |
|
14,030 |
Amgueddfa Ceredigion |
£9,754.00 |
|
35,010 |
Amgueddfa Cas-gwent |
£27,500.00 |
£27,500.00 |
18,829 |
Gwasanaeth Amgueddfeydd Conwy |
£22,031.46 |
£7,996.00 |
|
Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa |
£10,493.72 |
£25,483.47 |
75,924 |
Amgueddfa Cwm Cynon |
£2,960.50 |
|
|
Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych |
£18,783.63 |
£14,872.00 |
|
Ymddiriedolaeth Archifol Gwaith Glynebwy |
£6,342.43 |
|
|
Canolfan yr Aifft |
£12,264.00 |
|
|
Gwasanaeth Amgueddfeydd Sir y Fflint |
£930.00 |
|
|
Oriel Gelf Glynn Vivian |
£3,953.00 |
£4,500.00 |
|
Amgueddfa Dyffryn Maes Glas |
£2,567.00 |
|
|
Amgueddfa Gwynedd |
£18,609.92 |
£40,000.00 |
12,489 |
Amgueddfa Arforol Caergybi |
£1,219.19 |
|
9,000 |
Amgueddfa Fictoraidd Llety’r Barnwr |
£8,796.10 |
£5,400.00 |
10,367 |
Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli |
£13,365.50 |
£5,275.24 |
3,391 |
Amgueddfa Llandudno |
£4,585.00 |
£15,000.00 |
|
Elusendy Llanrwst |
£18,575.17 |
£25,270.00 |
|
Amgueddfa Lloyd George |
£2,693.00 |
£3,200.00 |
7,204 |
Castell ac Amgueddfa Gatrodol Sir Fynwy |
£1,231.16 |
|
4,310 |
Gwasanaethau Diwylliannol Sir Fynwy - Amgueddfeydd |
£12,025.00 |
|
|
Amgueddfa a Gwasanaeth Diwylliannol - Oriel Ynys Môn |
£4,650.00 |
|
|
Amgueddfa Cyflymder - Gwasanaeth Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin |
|
£1,119.50 |
37,749 |
Amgueddfa Arberth |
£15,400.00 |
£25,000.00 |
|
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Castell Perhyn |
£6,000.00 |
|
187,271 |
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd |
£2,820.00 |
£10,000.00 |
59,077 |
Amgueddfa’r Hen Gloch |
£3,000.00 |
£3,796.15 |
1,926 |
Amgueddfa Parc Howard |
£11,048.00 |
|
13,045 |
Amgueddfeydd Sir Benfro |
£5,500.00 |
|
|
Cymdeithas Amgueddfeydd Sir Benfro |
£1,889.46 |
|
|
Amgueddfa Pont-y-pŵl |
£15,194.17 |
£24,091.00 |
|
Amgueddfa Pontypridd |
£4,191.30 |
£3,000.00 |
26,708 |
Amgueddfa Powysland |
£15,789.75 |
£11,925.00 |
8,804 |
Gwasanaeth Amgueddfeydd Rhondda Cynon Taf |
£7,001.93 |
£11,830.55 |
|
Amgueddfa Rheilffordd Fach y Rhyl |
£2,697.22 |
|
9,192 |
Amgueddfa y Rhyl |
£24,051.86 |
£27,000.00 |
28,753 |
Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig |
£15,636.44 |
£16,000.00 |
|
Amgueddfa ac Oriel Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth |
£8,558.51 |
£30,000.00 |
6,500 |
Amgueddfa Scolton Manor |
£8,892.76 |
£2,129.50 |
|
Amgueddfa Abertawe |
£20,830.00 |
|
175,604 |
Amgueddfa Syr Henry Jones |
£14,875.40 |
£15,000.00 |
|
Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod |
£15,273.76 |
|
|
Tŷ Tredegar |
£3,502.67 |
|
20,050 |
Amgueddfa Bywyd Gwledig Brynbuga |
£954.14 |
|
3,597 |
Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam |
£18,622.76 |
£47,852.00 |
14,360 |
Is-adran Cadw - grantiau gan Cadw ar gyfer atgyweirio/adfer adeiladau hanesyddol
Oriel Mostyn |
|
£60,000.00 |
|
£502,367.94 |
£543,746.41 |
*Mae’r ffigurau ymwelwyr yn seiliedig ar holiaduron a ddychwelwyd gan amgueddfeydd ac orielau fel rhan o’r gwaith ymchwil a gyflawnwyd gan Beaufort Research ar ran Croeso Cymru.
Atodiad
2
Arian i orielau gan Gyngor Celfyddydau Cymru
Oriel |
2008-09 - grantiau a dalwyd |
Ffigurau ymwelwyr 2008* |
Ffotogallery |
£203,940.00 |
|
g39 |
£ 79,445.00 |
|
Oriel Gelf Glynn Vivian |
£126,735.00 |
|
Oriel y Genhadaeth |
£ 24,445.00 |
|
Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd |
£ 42,374.00 |
59,077 |
Oriel Davies |
£196,715.00 |
|
Oriel Mostyn |
£ 58,369.00 |
|
Ymddiriedolaeth Oriel Myrddin |
£ 7,951.00 |
|
Oriel Wrecsam |
£ 87,668.00 |
|
Canolfan Grefftau Rhuthun |
£206,604.00 |
|
Trace - Installaction Artspace |
£ 824.00 |
|
£1,035,070.00 |
|
*Mae’r ffigurau ymwelwyr yn seiliedig ar holiaduron a ddychwelwyd gan amgueddfeydd ac orielau fel rhan o’r gwaith ymchwil a gyflawnwyd gan Beaufort Research ar ran Croeso Cymru.
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Faint o bobl sydd wedi ymweld â’r Ardd Fotaneg Genedlaethol ym mhob un o’r 5 mlynedd diwethaf? (WAQ54304)
Alun
Ffred Jones: Yn ôl Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, mae nifer yr ymwelwyr fel a ganlyn:
2004/5 |
2005/6 |
2006/7 |
2007/8 |
2008/9 |
||
Mynediad wedi’i dalu |
78,159 |
|||||
Mynediad heb dalu (aelodau, cynigion ac ati) |
36,494 |
|||||
|
|
|
|
|
||
Cyfanswm yr Ymwelwyr wrth y Glwyd |
108,675 |
110,101 |
120,086 |
131,018 |
114,653 |
|
Ymwelwyr Addysg |
17,306 |
13,040 |
14,606 |
17,836 |
20,304 |
|
Ymwelwyr Corfforaethol |
7,229 |
11,172 |
13,422 |
11,488 |
12,138 |
|
Cyfanswm yr Ymwelwyr |
133,210 |
134,313 |
148,114 |
160,342 |
147,095 |
Cyn y llynedd, nid oes data ar gael sy’n dangos y tueddiadau hanesyddol rhwng mynediad wedi’i dalu a mynediad am ddim.
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu rhestr o’r symiau a wariwyd ar sefydliadau neu brosiectau diwylliannol er 2000 gan ddynodi ym mhob achos ym mha awdurdod lleol neu awdurdodau lleol y mae pob sefydliad neu brosiect wedi’i leoli? (WAQ54312)
Alun Ffred Jones: Nid yw’n bosibl darparu rhestr o wariant ar brosiectau neu sefydliadau diwylliannol ers 2000 fesul awdurdod lleol o’m portffolio, am nad yw’r gwariant a nodir yn fy adran yn cael ei gasglu ar y sail hwnnw. Gwneir y rhan fwyaf o’r arian y mae fy adran yn ei wario ar ddiwylliant drwy Gyrff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad.