Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 10 Medi 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Peter Black (Gorllewin De Cymru): Yn dilyn WAQ52397 a’ch llythyr dilynol ar 2 Medi 2008, beth yw’r amserlen ar gyfer y gwaith i ychwanegu polisi ynghylch rhwydweithiau cymdeithasol a blogio at Bolisi Defnyddio TGCh Llywodraeth Cynulliad Cymru. (WAQ52448)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa ymchwiliadau a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i bosibilrwydd cynhyrchu hydrocarbonau o fiomas yng Nghymru a neu lo drwy broses Fischer-Tropsch. (WAQ52444)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A oes unrhyw gyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn cynorthwyo cynlluniau BILlau sir y Fflint i adeiladu Canolfan Iechyd ym Mwcle, ac, os felly (a) pa amodau sydd ynghlwm wrth y cyllid hwn, a (b) a oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am gyllid, neu ar gyfer dechrau / cwblhau’r prosiect. (WAQ52443)
Gofyn i'r Gweinidog dros Dreftadaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Gwasg Gomer. (WAQ52445)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fonitro gwariant y grant Cronfa Meithrin Gallu Partneriaeth a ddyfarnwyd i’r RSPCA. (WAQ52446)
Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwrpas y grant Cronfa Meithrin Gallu Partneriaeth a ddyfarnwyd i’r RSPCA. (WAQ52447)