10/11/2010 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 03 Tachwedd 2010 i’w hateb ar 10 Tachwedd 2010

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A yw’r Gweinidog yn ymwybodol p’un ai a yw ‘Project Prevention’ yn weithredol yng Nghymru, ac os felly, pa asesiad y mae wedi’i wneud o’u gwaith. (WAQ56714)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno tagiau adnabod electronig ar gyfer defaid, a hefyd, pa drafodaethau y mae wedi'u cael yn ddiweddar gyda chynrychiolwyr y sectorau prosesu ac amaethyddol ynghylch ei effeithiolrwydd. (WAQ56715)

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am faint o ffermwyr sydd wedi apelio’n llwyddiannus yn erbyn cyfyngiadau Parth Perygl Nitradau ar eu daliadau ym mhob blwyddyn ers eu cyflwyno. (WAQ56716)

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am ba drafodaethau y mae hi a’i swyddogion wedi'u cael dros y deuddeg mis diwethaf gyda'r rheini sy'n rhannu'r un cyfrifoldebau â nhw yn rhanbarthau eraill y DU ynghylch casglu'r ardoll cig coch yn y dyfodol. (WAQ56717)

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Faint o weithwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi colli’u swydd, wedi cael eu hail-leoli i adrannau eraill, neu sydd ddim yn gwneud gwaith gweinyddol mwyach o ganlyniad i'r adolygiad i fiwrocratiaeth ar ffermydd. (WAQ56718)