12/02/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 5 Chwefror 2013 i’w hateb ar 12 Chwefror 2013

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Eluned Parrott (Canol De Cymru): A yw’r Gweinidog wedi cael unrhyw drafodaethau ynghylch naill ai prynu’r parsel o dir i’r gogledd o Orsaf Caerdydd Canolog sy'n rhan o Ardal Fenter Caerdydd ac sydd wedi dod ar y farchnad yn ddiweddar, neu sut y bydd yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol. (WAQ62165)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o faint o gyllid sydd wedi cael ei ddyrannu/a fydd yn cael ei ddyrannu i bob ysgol yng Nghymru drwy’r Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer y blynyddoedd canlynol:

a) 2012-2013

b) 2013-2014

c) 2014-2015 (WAQ62168)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog nodi pa newidiadau i’r rhagolygon ar gyfer Benthyciadau i Fyfyrwyr sydd wedi gwneud iddo gwtogi £13,642k ar ei gyllideb Gwariant a Reolir yn Flynyddol. (WAQ62183)

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Faint o’r arian a ddyrennir i gynlluniau rheoli llifogydd ac arfordiroedd yn yr Ail Gyllideb Atodol fydd yn mynd i gynlluniau ar gyfer Afon Dyfrdwy, a beth fydd wedi’i gynnwys yn y cynlluniau hyn. (WAQ62185)

William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa becynnau meddalwedd ac offer TGCh penodol sy’n cael eu prynu/trwyddedu i’w defnyddio gan gorff Cyfoeth Naturiol Cymru o’r £3,500k ychwanegol a ddyrannwyd i’r llinell ‘Cam Gweithredu Noddi a Rheoli Cyrff Gweithredu’ yng Nghyllideb Atodol Chwefror 2013 – Nodyn Esboniadol (tudalen 41). (WAQ62186)

Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Sawl gwaith yn ystod y Pedwerydd Cynulliad y mae Llywodraeth Cymru wedi cael cyngor cyfreithiol allanol, a beth oedd a) enw’r practis cyfreithiol, b) natur y cyngor, ac (c) y cyfanswm a wariwyd. (WAQ62169)

Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am enwau a nifer y gwefannau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hariannu, a phryd y dechreuwyd ariannu pob un o’r safleoedd hynny. (WAQ62175)

Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am gostau sefydlu pob gwefan a ariennir gan Lywodraeth Cymru. (WAQ62176)

Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am gostau rhedeg blynyddol pob gwefan a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. (WAQ62177)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o bobl (a) rhwng 50 a 65 oed, a (b) dros 65 oed, sydd â mynediad i'r rhyngrwyd ac sy'n ei defnyddio. (WAQ62166)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o welyau gofal dwys sydd wedi bod ym mhob ardal Bwrdd Iechyd Lleol bob blwyddyn dros y pum mlynedd diwethaf. (WAQ62167)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu Fampyra i gleifion Sglerosis Ymledol. (WAQ62170)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog nodi pa newidiadau i’r rhagolygon ar gyfer darpariaethau’r GIG a diffygion yn y GIG sydd wedi gwneud iddi gynyddu ei chyllideb Gwariant a Reolir yn Flynyddol £124,186,000. (WAQ62182)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa gyrff fydd yn cael cyllid fel rhan o’r £63,600k o gyllid ar gyfer Byrddau Iechyd a gyhoeddwyd yn yr Ail Gyllideb Atodol. (WAQ62184)

Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau ymlaen llaw ar gyfer gwario’r £29,000,000 ychwanegol a ddyrannwyd i’r Grant Tai Cymdeithasol, neu a fydd hyn yn destun cylch newydd o geisiadau.  (WAQ62181)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith y grwp Facebook ‘Shit Newport’ ar drigolion Casnewydd. (WAQ62171)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi unrhyw ymrwymiadau y mae wedi’u gwneud i wella cyflwr canol Dinas Casnewydd. (WAQ62172)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gefnogaeth y mae’r Gweinidog yn ei darparu i sicrhau ffyniant hirdymor canol Dinas Casnewydd yn y dyfodol. (WAQ62173)

Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A yw’r Gweinidog wedi asesu a oes gan Ddinas Casnewydd y cyfleusterau priodol i hybu, cefnogi a hyrwyddo datblygiad ieuenctid. (WAQ62174)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Eluned Parrott (Canol De Cymru): A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu prynu neu brydlesu unrhyw gerbydau ychwanegol ar ran unrhyw gwmni trenau rhwng nawr a diwedd y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yn 2015. (WAQ62178)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ystyried cyflwyno cynllun cerbydau ar gyfer trenau ledled Cymru. (WAQ62179)

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Ers i chi ddweud wrth y Pwyllgor Menter a Busnes ar 13 Gorffennaf 2011 eich bod yn dechrau gweithio ar y fasnachfraint rheilffyrdd newydd nawr, a allwch amlinellu beth yr ydych wedi’i wneud hyd yma, gan ddarparu dyddiadau cyfarfodydd a’r penderfyniadau a wnaed. (WAQ62180)